Mithras

Duw a addolid yn yr Ymerodraeth Rufeinig o'r ganrif gyntaf O.C. hyd y 4g oedd Mithras. Ceir tystiolaeth o bresenoldeb Mithräeth o wahanol leoedd ar draws yr ymerodraeth, ac ymddengys ei bod yn arbennig o boblogaidd ymysg milwyr. Nid oes sicrwydd am ddechreuad y grefydd, ond ymddengys iddi gyrraedd yr ymerodraeth o'r dwyrain, efallai o Asia Leiaf. Parhaodd hyd nes i'r ymerawdwr Theodosiws I wahardd pob crefydd heblaw Cristnogaeth yn 391.

Statutory group depicting the cult of Mithras, Mithras slaying the bull accompagnied by his two torchbeares Cautopates (left) and Cautes (right), from the Mithraeum at Sidon (Colonia Aurelia Pia, Syria), Louvre Museum (9365068428).jpg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolGreco-Roman mysteries Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Ymerodraeth Rufeinig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Efallai i Fithräeth ddechrau yn Iran a'r ardaloedd cyfagos, lle ceir enw Mithras mewn cynghrair rhwng yr Hethiaid a Mitanni tua 1400 CC. Ceir cyfeiriad aro yn y Fedâu yn India. Yn yr Avesta Iranaidd, mae'n dduwdod da, cyngheiriad Ahura Mazda, ac fe'i gelwir yn ‘farnwr yn enediau’. Er hynny, nid oes sicrwydd fod y Mithras yma yr un duwdod a'r Mithras a addolid yn y Mithräeth.

Roedd Mithräeth yn un o gyfrin-grefyddau, lle roedd aelodau newydd yn dod yn Fithräyddion trwy seremonïau oedd yn dadlennu cyfrinachau'r grefydd iddynt. Addolid Mithras mewn temlau o'r enw mithraeum. Ogofâu naturiol oedd y rhain ar y cychwyn, yna adeiladau oedd yn dynwared ogofâu. Nid oedd gan y grefydd ysgrythyrau. a rhaid dyfalu ei dysgeidiaeth o'r lluniau a cherfluniau sydd wedi eu cadw. Ymddengys i'r duw Mithras gael ei eni o graig gerllaw ffynnon santaidd. Lladdodd y tarw cyntefig mewn ogof.

Roedd saith gradd o Fithräyddion:

  • Corax (Cigfran).
  • Cryphius (κρύφιος) (cuddiedig).
  • Miles (milwr).
  • Leo (llew).
  • Perses (Persiad)
  • Heliodromus (negesydd yr haul).
  • Pater (tad), y gradd uchaf.

Ceir un mithraeum yng Nghymru, Mithraeum Caernarfon, gerllaw caer Rufeinig Segontium.

Mithras a'r tarw, ffresgo o Marino, yr Eidal.
Mithraeum yn Ostia yn yr Eidal