Ahura Mazda
Ahura Mazda neu Ohrmazd yw'r enw a roddir ar Dduw gan y Zoroastriaid. Ystyr yr enw Ahura Mazda yw 'Yr Arglwydd Doeth'. Fel mae ei enw yn awgrymu, ei brif agwedd yw Doethineb; nid yw'n twyllo ac ni ellir ei dwyllo gan ei fod yn ffynhonnell y goleuni a phob daioni. Ahura Mazda yw Tad a Mam y Bydysawd, y creawdwr a osodes yr haul, y lleuad a'r sêr yn eu llwybrau. Mae o'n bod a bydd yn bod am byth. Ond yn yr oes bresennol nid yw Ahura Mazda yn hollalluog am ei fod yn wynebu ei arch elyn Yr Ysbryd Drwg; ond daw'r amser y bydd yn gorchfygu'r gelyn ac yn teyrnasu'n hollalluog.
Enghraifft o'r canlynol | theonym, Ahura, duwdod, creawdwr |
---|---|
Crëwr | Zarathustra |
Enw brodorol | 𐬀𐬵𐬎𐬭𐬋 𐬨𐬀𐬰𐬛𐬃 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn y Zend Avesta ac ysgrythurau eraill disgrifir Ahura Mazda yn nhermau naturiolaidd (ond nid yw hynny'n golygu fod pob Zoroastriad yn meddwl amdano felly). Mae'n gwisgo mantell frith â sêr. Fe'i cynrychiolir gan yr haul - ei lygad - a'r goleuni. Lleolir ei orsedd yn y Nefoedd uchaf, yng nghanol y goleuni nefolaidd. Mae'n cadw llys yno ac mae angylion yn gweini arno.
Yn anad dim mae Ahura Mazda yn cynrychioli Daioni perffaith - y gwrthwyneb llwyr i Ddrygioni. Nid yw'n caniatau dioddefiant er bod hynny'n digwydd ar hyn o bryd oherwydd bodolaeth Drygioni. Y weledigaeth ohono a gafodd Zarathustra oedd man cychwyn Zoroastriaeth.
Ym mytholeg Persia cyn sefydlu Zoroastriaeth roedd Ahura Mazda yn un o'r prif dduwiau brodorol. Ceir sawl ffurf ar ei enw. Fe'i cysylltir gan amlaf â'r dduwies Anahita. Gan Anahita ac Ahura Mazda y derbynai brenhinoedd Persia eu hawdurdod.
Darllen pellach
golygu- John R. Hinnells, Persian Mythology (Llundain, 1973)