Moel y Waun
bryn (411.9m) yn Sir Ddinbych
Un o Fryniau Clwyd, Sir Ddinbych yw Moel y Waun (neu weithiau Moel y Waen) (Cyfeirnod OS: SJ168534) ac fe saif 412 metr uwch lefel y môr.[1]
Mae tua hanner cilometr i'r gogledd o Foel yr Acre, y bryn deheuol cyntaf o Fryniau Clwyd, a thua cilometr i'r de o Foel y Gelli a Llyn Gweryd. Y pentre agosaf yw Pentrecelyn sydd tua dwy gilometr i'r gorllewin. Ceir dau garnedd hynafol ar y copa, SJ16955324 a SJ16895332.[2]
-
Hen wal wedi'i dymchwel gan amser, ger y copa.
-
Offer synhwyo'r tywydd.
-
Pwynt ucha'r copa, gyda Moel Famau yn y cefndir.
-
Ffosydd yn agos at y copa; olion Celtaidd o bosib.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan ordnancesurvey.co.uk; adalwyd 22 Gorffennaf 2018.
- ↑ Gwefan coflein.gov.uk; adalwyd 22 Gorffennaf 2018.