Moel Famau
Bryn ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir Fflint yw Moel Famau. Y bryn yma yw copa uchaf Bryniau Clwyd. Mae'n ganolbwynt Parc Gwledig Moel Famau.
![]() | |
Cyfieithiad | |
Iaith | Cymraeg |
Testun y llun | Copa Moel Famau |
Uchder (m) | 561.5 |
Uchder (tr) | 1842 |
Amlygrwydd (m) | 272 |
Lleoliad | rhwng Llandudno a Wrecsam |
Map topograffig | Landranger 116; Explorer 265 |
Cyfesurynnau OS | SJ161626 |
Gwlad | Cymru |
Dosbarthiad | Marilyn (mynydd) a Dewey |
Ar y copa ceir Tŵr y Jiwbili, a adeiladwyd yn 1818 i ddathlu jiwbili y brenin Sior III. Chwalwyd y rhan uchaf o'r tŵr gan storm fawr yn 1862. Ar ddiwrnod clir gellir gweld yr Wyddfa, Ynys Manaw, Cader Idris a rhan helaeth o ogledd-orllewin Lloegr cyn belled a Cumbria o'r copa.
GaleriGolygu
Moel Famau o gyfeiriad Moel y Gaer, Dyffryn Clwyd.
Moel Famau o Fwlchgwyn ger Wrecsam
Bywyd gwylltGolygu
Dyma gynefin y rugiar ddu brin, adar ysglyfaethus ac adar megis clochdar y cerrig sy'n nodweddiadol o ucheldir o'r math hwn.
Gweler hefydGolygu
Dolenni allanolGolygu
Golygfeydd panorama o'r copa: