Moel yr Acer

un o Fryniau Clwyd - y mwyaf deheuol
(Ailgyfeiriad o Moel yr Acre)

Un o fryniau deheuol Bryniau Clwyd, Sir Ddinbych, yw Moel yr Acer (neu Foel yr Acre yn ôl mapiau'r OS) (Cyfeirnod OS: SJ169525) ac fe saif 361 metr uwch lefel y môr. Mae'n debyg i'r fersiwn 'Acre' gael ei ysgrifennu gan gartograffwyr di-Gymraeg, ond 'acer' a ddywedir yn lleol.

Moel yr Acer
Mathbryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBryniau Clwyd Edit this on Wikidata
SirSir Ddinbych
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr361 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.063714°N 3.24078°W Edit this on Wikidata
Map

Mae tua hanner cilometr i'r de o Moel y Waun. Fe ellir ei weld ar y chwith wrth drafaelio o Ruthun i Wrecsam drwy Nant y Garth. Gellir dweud mai dyma'r foel olaf a mwyaf deheuol o holl foelydd Dyffryn Clwyd.

Delweddau golygu