Moel yr Acer
un o Fryniau Clwyd - y mwyaf deheuol
Un o fryniau deheuol Bryniau Clwyd, Sir Ddinbych, yw Moel yr Acer (neu Foel yr Acre yn ôl mapiau'r OS) (Cyfeirnod OS: SJ169525) ac fe saif 361 metr uwch lefel y môr. Mae'n debyg i'r fersiwn 'Acre' gael ei ysgrifennu gan gartograffwyr di-Gymraeg, ond 'acer' a ddywedir yn lleol.
Math | bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Bryniau Clwyd |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 361 metr |
Cyfesurynnau | 53.063714°N 3.24078°W |
Mae tua hanner cilometr i'r de o Moel y Waun. Fe ellir ei weld ar y chwith wrth drafaelio o Ruthun i Wrecsam drwy Nant y Garth. Gellir dweud mai dyma'r foel olaf a mwyaf deheuol o holl foelydd Dyffryn Clwyd.
Delweddau
golygu-
Yr olygfa o Foel Acer i'r gogledd, sef i gyfeiriad Moel Famau.
-
Awyrlun
-
Awyrlun
-
Llun o gyfeiriad Castell y Rhodwydd