Monkh Saridag
Copa uchaf Mynyddoedd Sayan yng nghanol Asia yw Mönkh Saridag (hefyd Munku-Sardyk; Mongoleg: Мөнх сарьдаг, sef "nodwydd tragwyddol"). Ei uchder yw 3,491 meter (11,453 troedfedd) ac mae'n gorwedd ar y ffin ryngwladol rhwng Mongolia a Rwsia. Yn ogystal, hwn yw'r mynydd uchaf yng ngweriniaeth Buryatia ac yn nhalaith Khövsgöl ym Mongolia. Ar yr ochr ddeheuol ym Mongolia mae coed yn tyfu hyd at 2000 meter, a hyd at 2200 meter ar yr ochr ogleddol yn Rwsia.
Math | mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Vostochny Sayan |
Sir | Khankh |
Gwlad | Rwsia |
Uwch y môr | 3,492 metr |
Cyfesurynnau | 51.718833°N 100.597055°E |
Amlygrwydd | 1,578 metr |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Sayan |
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Monkh Saridag ar wefan Peakbagger.