Monte Perdido
Monte Perdido (Ffrangeg: Mont Perdu, y ddau enw yn golygu "y mynydd coll") yw'r trydydd mynydd yn y Pyreneau o ran uchder. Rhennir y mynydd rhwng Sbaen a Ffrainc, ond mae'r copa yn Sbaen.
![]() | |
Math |
mynydd ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol |
Ordesa y Monte Perdido National Park ![]() |
Sir |
Aragón ![]() |
Gwlad |
![]() ![]() |
Uwch y môr |
3,355 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
42.6739°N 0.0333°E ![]() |
Amlygrwydd |
973 metr ![]() |
Cadwyn fynydd |
Monte Perdido Massif ![]() |
![]() | |
Deunydd |
calchfaen ![]() |
O ochr Sbaen y gellir cyrraedd y mynydd, o bentref Torla yn Aragon ar hyd Dyffryn Ordesa. Y mynydd yw canolbwynt Parc Cenedlaethol Ordesa y Monte Perdido, a ffurfiwyd yn 1918. Erbyn hyn mae'r parc yn cynnwys 156 km sgwar. Ceir mwy na 1500 rhywogaeth o flodyn, 171 o adar a 32 rhywogaeth o famal. Mae'n lle arbennig o dda i weld y Lammergeier ("Fwltur Barfog").
Gellir dringo'r mynydd o Gavarnie (Hautes-Pyrénées) ar ochr Ffrainc hefyd. Ceir y Cirque de Gavarnie, un o'r golygfeydd mwyaf trawiadol yn y Pyrénées, a'i rhaeadr enwog wrth droed y mynydd ger y pentref.
Enwyd Monte Perdido yn Safle Treftadaeth y Byd yn 1997, yn cael ei rhannu rhwng Sbaen a Ffrainc.