Morda

pentref yn Swydd Amwythig

Pentref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Morda.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Oswestry Rural yn awdurdod unedol Swydd Amwythig.

Morda
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolOswestry Rural
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.843°N 3.058°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ287278 Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y pentref yw hon. Am y cymeriad yn chwedl Taliesin gweler Hanes Taliesin. Gweler hefyd Afon Morda.

Llifa Afon Morda, un o ledneintiau Afon Hafren, heibio i'r pentref gan roi iddo ei enw. Fe'i lleolir tua milltir a hanner i'r de o Groesoswallt. Mae ei leoliad a'i enw Cymraeg yn dangos y bu ar un adeg yn rhan o Bowys. Arosodd yn rhan o Gymru tan gyfnod y "Deddfau Uno" pan roddwyd Arglwyddiaeth Croesoswallt i Swydd Amwythig.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 11 Ebrill 2021
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato