Morlo Llwyd

(Ailgyfeiriad o Morlo llwyd)
Morlo Llwyd
Morlo Llwyd ger Rhossili.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Phocidae
Genws: Halichoerus
Nilsson, 1820
Rhywogaeth: H. grypus
Enw deuenwol
Halichoerus grypus
(Fabricius, 1791)

Ceir y Morlo Llwyd (Halichoerus grypus) ar ddwy ochr Môr Iwerydd; ef yw'r mwyaf cyffredin o'r ddwy rywogaeth o Forlo o gwmpas arfordir Cymru. Mae'n perthyn i deulu'r Phocidae, y "gwir forloi", a dyma'r unig rywogaeth yn y genws Halichoerus.

Dosbarthiad y Morlo Llwyd.

Morlo gweddol fawr yw'r Morlo Llwyd, gyda'r gwrywod yn cyrraedd 2.5 - 3 metr o hyd a phwysau o hyd at 300 kg; mae'r benywod yn llai, 1.6 - 2.0 metr o hyd ac yn pwyso 150 kg. Pysgod o wahanol fathau yw eu bwyd, a gallant blymio i ddyfnder o 70 metr neu fwy i'w dal. Genir y cenawon (sef y morloi ifance) rhwng Medi a Thachwedd;

Amcangyfrifir fod poblogaeth o tua 5,000 o gwmpas arfordir Cymru i'r de o Aberystwyth, yn magu 1,300 o loi bach yn ôl amcangyfrif yn 2000.

Morloi llwydion wedi tynnu allan ar Bae Dyniawed, Bae Penrhyn 6 Rhagfyr 2018. Mae Dyniawed (môr) yn enw arall ar forlo

Bwyd golygu

Pysgod o bob math ac anifeiliaid eraill y môr, er enghraifft, y gath fôr felen:

Ymrafael rhwng morlo a chath fôr:

Cadarnhaodd yr arbenigwr bywyd môr Sion Roberts: “...cath fôr wedi ei dal gan forlo. Efallai mai Raja brachyura, y gath fôr felen, yw'r 'sgodyn.[1]

fideo, gydag isdeitlau Cymraeg o fonitro a chadwraeth

Enwau lleoedd golygu

Bae bychan ger Trwyn y Fuwch, ardal Bae Penrhyn, Llandudno, yw Porth Dyniewaid. Mae'r enw'n ddiddorol ac mae sawl sillafiad gwahanol a dau ystyr. Buwch ifanc rhwng blwydd a dyflwydd, neu fustach yw un ystyr. Mae'r llall, sef 'morlo ifanc' yn gwneud mwy o synnwyr. Gwelwyd llawer o forloi yno ar y 6 Ionawr 2019. Yn ôl un person roedd yno 47. Ar dudalen o'r cylchgrawn You Know you are from Llandudno mae rhywun wedi cyfri dros 70.Facebook.

Dolenni allanol golygu

  1. Sion Roberts ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56