Mosg Umar (Jeriwsalem)
Mae Mosg Umar (Arabeg: مسجد عمر بن الخطاب) yn fosg Ayyubidaidd, yn Jeriwsalem, gyferbyn â iard deheuol Eglwys y Cysegr Sanctaidd yn ardal Muristan yn y Chwarter Cristnogol.
Enghraifft o'r canlynol | mosg |
---|---|
Gwlad | Palesteina |
Dechrau/Sefydlu | 1193 |
Enw brodorol | مسجد عمر |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina, Israel |
Rhanbarth | Jeriwsalem |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mosg (dwyreiniol) cyntaf Umar
golyguYn ôl naratifau a ysgrifennwyd yn dilynl Gwarchae Jerwsalem yn 637 gan fyddin Mwslimaidd Rashidun o dan orchymyn Abu Ubaidah ibn al-Jarrah, gwrthododd Patriarch Sophronius ildio ac eithrio i’r Caliph Umar (579-644) ei hun. Teithiodd Umar i Jerwsalem a derbyn yr ildiad. Yna ymwelodd ag Eglwys yr Atgyfodiad (a elwir heddiw yn Eglwys y Cysegr Sanctaidd ) lle gwahoddodd Sophronius ef i weddïo y tu mewn i'r eglwys, ond gwrthododd Omar er mwyn peidio â gosod cynsail a thrwy hynny beryglu statws yr eglwys fel safle Cristnogol. Yn hytrach gweddïodd y tu allan, ar y grisiau i'r dwyrain o'r eglwys.[1] Yn ddiweddarach, adeiladwyd Mosg cyntaf Umar ar y safle hwnnw, fel y tytir gan garreg gydag arysgrif Kufig a ddarganfuwyd ym 1897 yn ardal atriwm dwyreiniol neu allanol Eglwys yr Atgyfodiad Cystennin I (4g), gan ddiffinio'r ardal hon fel mosg.[1]
Mosg (deheuol) presennol Umar
golyguAdeiladwyd Mosg cyfredol Umar yn ei siâp presennol gan y Swltan Ayyubidaidd Al-Afdal ibn Salah ad-Din ym 1193 i gofio gweddi’r caliph Umar.[2] Mae'r mosg presennol wedi'i leoli mewn safle gwahanol i'r un lle credir i Omar weddïo a lle lleolwyd y mosg cynharach, gan ei fod yn sefyll i'r de o'r eglwys yn hytrach nag i'r dwyrain ohoni. Gwnaed hyn mae'n debyg gan fod y fynedfa i Eglwys y Cysegr Sanctaidd wedi symud o'r dwyrain i'r de o'r eglwys oherwydd digwyddiadau dinistriol dro ar ôl tro a effeithiodd ar y Cysegr Sanctaidd yn ystod yr 11g a'r 12g.[1]
Y ddau fosg bob ochr i'r Cysegr Sanctaidd
golyguMae gan Fosg Al-Khanqah al-Salahiyya, sydd wedi'i leoli ar ochr arall (ochr ogleddol) Eglwys y Cysegr Sanctaidd, feindwr bron yn union yr un fath,[2] ac a godwyd ym 1418.[3] Yn amlwg, cynlluniwyd y ddau fel pâr, ac mae'n ddiddorol sylwi y byddai llinell sy'n cysylltu'r ddau feindwr yn croestorri drws Feddrod Iesu y tu mewn i'r eglwys, tra bod y meindyrau yn gyfochrog â'r drws hwnnw[3] a'u topiau'n cyrraedd yr un drychiad yn union, er gwaethaf dechrau ar wahanol lefelau ar y ddaear.[2]
Oriel
golygu-
Yn y map hwn o 1915, mae'r Mosg yn ymddangos i'r de o Eglwys y Cysegr Sanctaidd ym Muristan, ger canol fertigol y map.
-
Mae'r Mosg wedi'i neilltuo ar gyfer gweithgareddau crefyddol
-
Meindwr
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Krüger, Jürgen (2000). Die Grabeskirche zu Jerusalem: Geschichte, Gestalt, Bedeutung [The Church of the Holy Sepulchre in Jerusalem: History, Form, Importance] (yn Almaeneg). Regensburg: Schnell und Steiner. tt. 72–73. ISBN 3-7954-1273-0. Cyrchwyd 29 May 2018.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Murphy-O'Connor, Jerome (2008). Two Mosques. Oxford Archaeological Guides. Oxford: Oxford University Press. tt. 62–63. ISBN 978-0-19-923666-4. Cyrchwyd 20 June 2016.
- ↑ 3.0 3.1 El Khanqah-Moschee in Jerusalem (German text and pictures at theologische-links.de)
Darllen pellach
golygu- Busse, Heribert, Die 'Umar-Moschee im östlichen Atrium der Grabeskirche (lit. "Mosg 'Umar yn atriwm dwyreiniol Eglwys y Cysegr Sanctaidd"), Zeitschrift des deutschen Palästina-Vereins, 109 (1993), tt. 73–82.