Eglwys y Beddrod Sanctaidd

eglwys yn Jeriwsalem
(Ailgyfeiriad o Eglwys y Cysegr Sanctaidd)

Eglwys hynafol yn Chwarter Cristnogol dinas Jeriwsalem yw Eglwys y Beddrod Sanctaidd (Groeg: Παναγίου Τάφου; Armeneg: Սուրբ Հարության տաճար; Lladin: Ecclesia Sancti Sepulchri; Amhareg: የቅዱስ መቃብር ቤተክርስቲያን; Hebraeg: כנסיית הקבר; Arabeg: كنيسة القيامة‎).[1] Yn ôl traddodiad o'r 4g OC, mae'n cynnwys dwy safle sancteiddiaf y byd Cristnogol: y safle lle croeshoeliwyd Iesu Grist, mewn man o'r enw Calfaria neu Golgotha, a bedd gwag yr Iesu, lle cred rhai Cristnogion iddo gael ei gladdu a'i atgyfodi.[2] Amgaeir y beddrod gan gysegrfa o'r 19g a elwir yn yr aedicula. Mae cytundeb a elwir yn Status Quo yn ddealltwriaeth rhwng cymunedau crefyddol sy'n dyddio i 1757, ac yn berthnasol i'r safle hwn.[3][4]

Eglwys y Beddrod Sanctaidd
Mathbasilica minor, basilica patriarchaidd, eglwys gadeiriol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBeddrod yr Iesu Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 14 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHen Ddinas Caersalem Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Cyfesurynnau31.7784°N 35.2298°E Edit this on Wikidata
Hyd120 metr Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Cristnogaeth Fore, pensaernïaeth Romanésg, pensaernïaeth Gothig Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganCystennin I, Helena o Gaergystennin Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iBeddrod yr Iesu Edit this on Wikidata
Crefydd/EnwadCristnogaeth, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, yr Eglwys Gatholig Rufeinig Edit this on Wikidata
Deunyddcraig Edit this on Wikidata
EsgobaethEglwys Uniongred Roegaidd Jeriwsalem, Patriarchaeth Ladin Jeriwsalem Edit this on Wikidata

O fewn yr eglwys ceir pedair lleoliad diwethaf y Groes ar y Ffordd Ddolurus (Lladin: Via Dolorosa), sy'n cynrychioli pedwar rhan o ddyddiau olaf Crist. Bu'r eglwys yn gyrchfan pererindod Gristnogol o bwys ers ei chreu yn y 4g, fel safle traddodiadol atgyfodiad Crist, a roddodd iddi ei henw Groegaidd gwreiddiol, Eglwys yr Anastasis ('Atgyfodiad').

Heddiw, mae'r adeiladau ehangach o amgylch Eglwys y Beddrod Sanctaidd hefyd yn gwasanaethu fel pencadlys patriarch Uniongred Groegaidd Jeriwsalem, tra bod rheolaeth ar yr eglwys ei hun yn cael ei rhannu, ar yr un pryd, ymhlith sawl enwad Cristnogol ac endidau seciwlar mewn trefniadau cymhleth heb eu newid ers dros 160 mlynedd, a rhai yn hirach na hynny. Y prif enwadau sy'n rhannu'r cyfrifoldeb dros yr eglwys yw'r Eglwys Uniongred Roegaidd, yr Eglwys Gatholig Rufeinig, Eglwys Apostolaidd Armenia, ac i raddau llai yr Eglwys Goptaidd, yr Eglwys Uniongred Syrieg, ac Eglwys Uniongred Ethiopia.

Enw golygu

Gelwir Eglwys neu Fasilica y Beddrod Sanctaidd[5] (Lladin: Ecclesia Sancti Sepulchri; Hebraeg: כנסיית הקבר, Knesiyat ha-Kever) hefyd yn Eglwys yr Atgyfodiad neu Eglwys yr Anastasis gan Gristnogion y Dwyrain (Arabeg: كَنِيسَةُ ٱلْقِيَامَة‎, Kanīsatu al-Qiyāmah; Groeg (iaith): Ναὸς τῆς Ἀναστάσεως, Naos tes Anastaseos; Armeneg: Surb Harut'yan tač̣ar).

Hanes golygu

Yn dilyn gwarchae Jeriwsalem yn 70 OC yn ystod rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain, roedd Jeriwsalem wedi'i throi'n adfeilion. Yn 130 OC, dechreuodd yr ymerawdwr Rhufeinig Hadrian adeiladu trefedigaeth Rufeinig, dinas newydd Aelia Capitolina, ar y safle. Tua'r un flwyddyn, gorchmynnodd y dylid llenwi ogof yn cynnwys beddrod wedi'i dorri o'r graig i greu sylfaen wastad ar gyfer teml wedi'i chysegru i'r duw Iau neu'r dduwies Gwener.[6] Fe'i codwyd, ac yno y bu hyd at ddechrau'r 4g.[7][8]

Adeiladu (4g) golygu

 
Llun dychmygol gan artist o'r basilica Rhufeinig

Ar ôl yr honnir iddo weld gweledigaeth o groes yn yr awyr yn 312,[9] trodd Cystennin Fawr at Gristnogaeth. Llofnododd Orchymyn Milan gan gyfreithloni'r grefydd newydd, ac anfonodd ei fam Helena i Jeriwsalem i chwilio am feddrod Crist. Gyda chymorth Eusebius, esgob Cesarea, a Macarius, esgob Jeriwsalem, daethpwyd o hyd i dair croes ger un beddrod, gan arwain y Rhufeiniaid at gredu eu bod wedi dod o hyd i Galfaria.[10] Gorchmynnodd Cystennin tua 326 y dylid disodli'r deml i Iau neu Gwener a chodi eglwys yn y fan a'r lle.[11] Ar ôl i'r deml gael ei rhwygo, tynnwyd y pridd o'r ogof, gan ddatgelu beddrod wedi'i dorri yn y graig, a nododd Helena a Macarius y fan fel man claddu'r Iesu.[12][13][14] Adeiladwyd cysegrfa, yn amgáu waliau'r beddrod.[15][16]

Yn 327, comisiynodd Cystennin a Helena Eglwys y Geni ym Methlehem yn annibynnol o hon, i gofio genedigaeth yr Iesu.

Codwyd Eglwys y Beddrod Sanctaidd mewn dwy ran: y basilica mawr[17] (neu'r Martyrium), a'r atriwm (y Triportico) a'i rhesi o golofnau, sef safle traddodiadol Calfaria ar y naill law, ac ar draws y buarth, yr ail safle,[18] sef rotwnda o'r enw'r Anastasis ("Atgyfodiad"), lle credai Helena a Macarius fod yr Iesu wedi'i gladdu.

Cysegrwyd yr eglwys ar 13 Medi 335. Bob blwyddyn, mae Eglwys Uniongred y Dwyrain yn dathlu pen-blwydd ei godi.[19]

Niwed a dinistr (614–1009) golygu

Dinistriwyd yr adeilad hwn gan dân ym Mai 614 OC, pan oresgynnodd yr Ymerodraeth Sassanid, dan Khosrau II,[10] Jeriwsalem a chipio'r Gwir Groes. Yn 630, ailadeiladodd yr ymerawdwr Heraclius yr eglwys ar ôl ail-gipio'r ddinas. Ar ôl i Jeriwsalem ddod o dan lywodraeth Arabaidd, arhosodd yn eglwys Gristnogol, gyda'r llywodraethwyr Mwslimaidd cynnar yn amddiffyn safleoedd Cristnogol y ddinas, gan wahardd eu dinistrio neu eu defnyddio fel adeiladau preswyl.[20]

Yn gynnar yn y 9g, difrodwyd cromen yr Anastasis gan ddaeargryn arall. Atgyweiriwyd y difrod ym 810 gan y patriarch Thomas I. Yn 841, llosgwyd rhan o'r eglwys. Yn 935, ataliodd y Cristnogion y Mwslimaidd rhag codi mosg ger yr Eglwys. Yn 938, llosgwyd y tu mewn i'r basilica a daeth y tan yn agos at y rotwnda. Yn 966, oherwydd trechu byddinoedd Mwslimaidd yn rhanbarth Syria, torrodd terfysg allan, a llosgwyd y basilica eto a'r drysau a rhan o'r to, a llofruddiwyd y patriarch Ioan VII. 

Ar 18 Hydref 1009, gorchmynnodd y califf Ffatimid Al-Hakim bi-Amr Allah ddinistrio'r eglwys yn llwyr fel rhan o ymgyrch yn erbyn addoldai Cristnogol ym Mhalesteina a'r Aifft.[a] Roedd y difrod yn helaeth, heb lawer o rannau o'r eglwys gynnar ar ôl, a difrodwyd to'r beddrod a dorrwyd yn y graig; dinistriwyd y gysegrfa wreiddiol.[15] Dilynwyd gyda pheth atgyweiriadau.[21] Ymatebodd Ewrop Gristnogol gyda sioc a diarddelwyd yr Iddewon, a fu'n ysgogiad i Groesgadau diweddarach.[22][23]

Ailadeiladu (11g) golygu

Mewn trafodaethau eang rhwng y Ffatimidiaid a'r Ymerodraeth Fysantaidd yn 1027–28, cytunodd y califf newydd Ali az-Zahir (mab Al-Hakim) i ganiatáu ailadeiladu ac ailaddurno'r eglwys. Cwblhawyd yr ailadeiladu o'r diwedd ar gost enfawr gan yr ymerawdwr Cystennin IX Monomachos a'r patriarch Nicephoros o Gaergystennin ym 1048.[24] Fel consesiwn, agorwyd y mosg yng Nghaergystennin. Canolbwyntiwyd yr adeiladwaith newydd ar y rotwnda a'r adeiladau o'i amgylch: arhosodd y basilica mawr yn adfeilion.[21]

Roedd safle'r eglwys a ailadeiladwyd yn cynnwys "cwrt ar agor i'r awyr, gyda phum capel bach ynghlwm wrtho".[25] Roedd y capeli i'r dwyrain o gwrt yr Atgyfodiad lle bu wal orllewinol y basilica mawr. Roeddent yn coffáu golygfeydd o'r Croeshoelio, megis lleoliad carchar Crist a'i fflangellu.

Mae cysegriad y capeli hyn yn dangos pwysigrwydd defosiwn y pererinion i ddioddefaint Crist. Fe'u disgrifiwyd fel 'math o Via Dolorosa yn fach' ... gan nad oedd fawr o waith adfer wedi'u wneud ar safle'r basilica mawr. Cofnoda nifer o bererinion o'r Gorllewin yn ystod yr 11g fod yma lawer o adfeilion.[21] Parhaodd rheolaeth Jeriwsalem, a thrwy hynny Eglwys y Beddrod Sanctaidd, i newid dwylo sawl gwaith rhwng y Ffatimidiaid a'r Tyrciaid Seljuk (yn deyrngar i'r califf Abbasid yn Baghdad) nes i'r Croesgadwyr gyrraedd yn 1099.[26]

Cyfnod y Croesgadwyr (1099–1244) golygu

 
Graffiti croesgadwr yn yr eglwys: croesau wedi'u hysgythru yn y grisiau sy'n arwain i lawr at Gapel Santes Helena [27]

Mae llawer o haneswyr yn honni mai prif bryder y pab Urbanus II, wrth alw am y Groesgad Gyntaf, oedd y bygythiad i Gaergystennin yn dilyn goresgyniad Asia Leiaf gan y Tyrciaid. Mae haneswyr yn cytuno yr oedd tynged Jeriwsalem a thrwy hynny Eglwys y Beddrod Sanctaidd hefyd yn destun pryder, os nad nod uniongyrchol polisi'r pab ym 1095. Enillodd y syniad o feddiannu Jeriwsalem fwy o rym wrth i'r Groesgad fynd rhagddi. Cymerwyd safle'r eglwys a ailadeiladwyd oddi wrth y Ffatimidiaid gan farchogion y Groesgad Gyntaf ar 15 Gorffennaf 1099.[21]

Rhagwelwyd y Groesgad Gyntaf fel rhyw bererindod arfog, ac ni allai unrhyw groesgadwr ystyried ei daith yn gyflawn oni bai ei fod wedi gweddïo fel pererin yn Eglwys y Beddrod Sanctaidd. Y theori glasurol yw bod y tywysog-Croesgadwr Godefroid o Fouillon, a ddaeth yn frenin cyntaf Teyrnas Jeriwsalem, wedi penderfynu peidio â defnyddio'r teitl "brenin" yn ystod ei oes, ac wedi datgan ei hun yn hytrach yn Advocatus Sancti Sepulchri ("Amddiffynnwr y Beddrod Sanctaidd").[28]

Mae Gwilym o Dyrus, croniclydd teyrnas y Croesgadwyr, yn adrodd ar adnewyddu'r Eglwys yng nghanol y 12g. Ymchwiliodd y Croesgadwyr i'r adfeilion dwyreiniol ar y safle, gan gloddio trwy'r rwbel a darganfod rhan o'r adeiladau gwreiddiol, sef lloc teml Hadrian; fe wnaethant drawsnewid y gofod hwn yn gapel wedi'i gysegru i'r Santes Helena, gan ehangu eu twnnel cloddio gwreiddiol yn risiau. Dechreuodd y Croesgadwyr ail-addurno'r eglwys mewn arddull Romanésg ac ychwanegu clochdy.[29] Unodd yr adnewyddiadau hyn y capeli bach ar y safle ac fe'u cwblhawyd yn ystod teyrnasiad y frenhines Melisende ym 1149, gan roi'r holl leoedd sanctaidd o dan yr un to am y tro cyntaf.

Daeth yr eglwys yn sedd y patriarchiaid Lladin cyntaf a safle sgriptoriwm y deyrnas. Fe'i collwyd, ynghyd â gweddill y ddinas, i Saladin ym 1187,[29] er bod y cytundeb a sefydlwyd ar ôl y Drydedd Groesgad wedi caniatáu i bererinion Cristnogol ymweld â’r safle. Adenillodd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig Ffredrig II y ddinas a'r eglwys trwy gytundeb yn y 13g. Mae'n ymddangos bod yr eglwys wedi bod i raddau helaeth yn nwylo Athanasios II, Patriarch Uniongred Roegaidd Jeriwsalem (c. 1231–47), yn ystod rheolaeth Ladin Jeriwsalem.[30] Cipiwyd y ddinas a'r eglwys gan y Khwarezmiaid yn 1244.[29]

Y cyfnod Otomanaidd golygu

 
Eicon Uniongred yn coffáu adnewyddiad yr eglwys, c. 1600

Yn 1545, cwympodd lefel uchaf y eglwys, sef y clochdy.[31] Adnewyddodd brodyr Urdd Sant Ffransis yr eglwys ym 1555, gan iddi gael ei hesgeuluso er gwaethaf niferoedd cynyddol o bererinion.[32] Gosodwyd cysegr marmor a gomisiynwyd gan y mynach Boniffas o Ragusa i orchuddio gweddillion beddrod Crist,[15] yn ôl pob tebyg i atal pererinion rhag cyffwrdd â'r graig wreiddiol neu gymryd darnau bach fel cofroddion.[33] Gosodwyd slabyn marmor dros y gwely claddu calchfaen lle credir bod corff yr Iesu wedi gorwedd.[15]

Ar ôl adnewyddu 1555, pendiliodd reolaeth yr eglwys rhwng y Ffransisgiaid a'r Uniongred, yn aml trwy lwgrwobrwyo. Nid oedd gwrthdaro treisgar yn anghyffredin.[34] Yn ystod Wythnos y Pasg 1757, mae'n debyg bod Cristnogion Uniongred wedi cipio peth o'r eglwys a reolwyd gan y Ffransisgiaid. Efallai mai dyma oedd achos archddyfarniad (firman) y swltan a ddatblygwyd yn ddiweddarach yn y Status Quo.

Llosgwyd rhan arall o'r eglwys yn 1808,[15] gan achosi i romen y rotwnda gwympo a malu addurn allanol yr aedicula. Ailadeiladwyd hwnnw, a thu allan yr aedicula, ym 1809–1810 gan y pensaer Nikolaos Ch. Komnenos o Mytilene yn yr arddull Baróc Otomanaidd gyfoes. Ailadeiladwyd tu mewn yr rhagystafell, a elwir bellach yn "Gapel yr Angel",[b] yn rhannol i gynllun sgwâr yn lle'r pen gorllewinol hanner cylch a arferai fod.

Cadarnhaodd archddyfarniad arall gan y swltan ym 1853 y rhaniad tiriogaethol presennol ymhlith y cymunedau a chadarnhau'r Status Quo i drefniadau "aros yn eu cyflwr presennol", gan fynnu consensws i wneud mân newidiadau hyd yn oed.[36]

 
Prif gromen Eglwys y Beddrod Sanctaidd, c. 1905, golygfa o'r gogledd-ddwyrain; y clochdy i'r dde

Cyfnod Mandad Prydain golygu

Erbyn goresgyniad Palesteina gan Brydain – a Mandad Prydain a ddilynodd hynny, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf – roedd y cladin o farmor coch a roddwyd ar yr aedicula gan Komnenos wedi dirywio'n ofnadwy ac yn datgysylltu o'r strwythur sylfaenol; o 1947 hyd at waith adfer yn 2016–2017, fe'i cynhaliwyd yn ei le gyda sgaffaldiau allanol o wregysau haearn wedi'u gosod gan y Prydeinwyr.[37]

Cyfnodau Gwlad yr Iorddonen ac Israel golygu

 
Diagram o'r eglwys fodern yn dangos safle traddodiadol Calfaria a Beddrod yr Iesu

Adferwyd y gromen eto ym 1994–1997 fel rhan o adnewyddiadau modern helaeth sydd wedi bod ar y gweill ers 1959. Yn ystod y gwaith adfer a chloddio rhwng 1970 a 1978 darganfuwyd mai chwarel calchfaen meleke gwyn oedd y safle gyfan, yn wreiddiol.[38]

Disgrifiad golygu

Parvis (cwrt) golygu

Yr enw ar y cwrt sy'n wynebu'r fynedfa i'r eglwys yw'r parvis. Mae ychydig o strwythurau llai wedi'u lleoli o amgylch y parvis.

Y clochdy golygu

Mae'r clochdy o'r 12g ychydig i'r de o'r rotwnda, i'r chwith o'r fynedfa.[15] Collwyd ei lefel uchaf mewn cwymp yn 1545.[39] Yn 1719, collwyd dau lawr arall.[15]

Y ffasâd a'r fynedfa golygu

Ers y 7g, mae'r teulu Mwslimaidd Nusaybah wedi bod yn gyfrifol am agor y drws fel parti diduedd i enwadau'r eglwys.[40] Yn 1187, cymerodd Saladin yr eglwys oddi wrth y Croesgadwyr ac ymddiriedodd allwedd Joudeh Al-Goudia, sydd wedi'i gwneud o haearn 30 cm (12 modf) o hyd; mae'r Nuseibehs yn parhau i fod yn geidwaid y drws.[41][42]

 
Lithograff o 1842 ar ôl David Roberts
Lithograff o 1842 ar ôl David Roberts 
 
Golygfa o'r Parvis yn ystod y Pasg ym 1898 (yr 'ysgol na ellir ei symud' i'w gweld ar y brig a'r canol; Capel y Ffranciaid ar y dde)
Golygfa o'r Parvis yn ystod y Pasg ym 1898 (yr 'ysgol na ellir ei symud' i'w gweld ar y brig a'r canol; Capel y Ffranciaid ar y dde) 

Calfaria (Golgotha) golygu

 
Allor y Croeshoeliad, lle mae craig Calfaria wedi'i gorchuddio â gwydr amddiffynnol

Ychydig y tu mewn i fynedfa'r eglwys mae grisiau sy'n arwain i fyny at Galfaria (Golgotha), a ystyrir yn draddodiadol fel safle croeshoeliad yr Iesu,[43] a'r rhan o'r eglwys sydd wedi'i haddurno fwyaf. Mae'r allanfa trwy risiau arall gyferbyn â'r cyntaf, gan arwain i lawr at y llwybr troed. Mae Golgotha a'i gapeli ychydig i'r de o brif allor y Catholicon.

Y Garreg Eneinio golygu

Ychydig y tu mewn i fynedfa'r eglwys mae'r Garreg Eneinio (hefyd Carreg yr Eneiniad neu Garreg yr Uniad), lle paratowyd corff Iesu i'w gladdu gan Joseff o Arimathea medd y traddodiad. Ychwanegwyd y garreg bresennol yn 1810.[44]

Y Rotwnda a'r Aedicula golygu

 
Peintiad o'r tu mewn i'r Rotwnda gan Luigi Mayer, cyn 1804
Peintiad o'r tu mewn i'r Rotwnda gan Luigi Mayer, cyn 1804 
 
Lithograff 1842 o'r aedicula a adeiladwyd ar ôl tân 1808, gan David Roberts
Lithograff 1842 o'r aedicula a adeiladwyd ar ôl tân 1808, gan David Roberts 
 
Yr aedicula yn 2012, gyda'r sgaffald a fu yno rhwng 1947 a 2016. Mae capel y Coptiaid gyda tho euraidd i'r chwith, a'r brif fynedfa i'r dde.
Yr aedicula yn 2012, gyda'r sgaffald a fu yno rhwng 1947 a 2016. Mae capel y Coptiaid gyda tho euraidd i'r chwith, a'r brif fynedfa i'r dde. 
 
Yr aedicula yn 2020, heb y sgaffald
Yr aedicula yn 2020, heb y sgaffald 
 
Golygfa flaen o'r aedicula
Golygfa flaen o'r aedicula 
 
Cromen yr Anastasis uwchben yr aedicula
Cromen yr Anastasis uwchben yr aedicula 

Y Catholicon golygu

 
Pen dwyreiniol catholicon dan berchnogaeth Uniongred Gwlad Groeg, 2009

Yng nghorff canolog yr eglwys, a godwyd yn oes y Croesgadwyr ychydig i'r dwyrain o'r rotwnda mwy,[15] mae prif allor yr eglwys, heddiw Catholicon Uniongred Gwlad Groeg. Mae gan y gromen ddiametr o 19.8 metr (65 tr).[45] Dros ganol croesfan transept y cwîr lle mae'r compas wedi'i leoli, ceir carreg omphalos ("bogail") y credwyd unwaith ei bod yn ganolbwynt y byd ac yn dal i gael ei barchu felly gan Cristnogion Uniongred (yn gysylltiedig â safle'r Croeshoeliad a'r Atgyfodiad).

Y mynachlog Armenaidd i'r de o'r aedicula golygu

I'r de o'r aedicula mae "Lle'r Tair Mair",[46] wedi'i farcio gan ganopi carreg a brithwaith wal fodern fawr. O'r fan hon, gellir mynd i mewn i'r fynachlog Armenaidd sy'n ymestyn dros y llawr gwaelod a llawr uchaf rhan dde-ddwyreiniol yr eglwys.

Y Capel Syriaidd, gyda Beddrod Joseff o Arimathea golygu

I'r gorllewin o'r aedicula, y tu ôl i'r Rotwnda, mae'r Capel Syriaidd gyda Beddrod Joseff o Arimathea, wedi'i leoli yn aps Cystennin, ac yn cynnwys agoriad i feddrod hynafol creigiog Iddewig. Y capel hwn yw lle mae'r Eglwys Uniongred Syrieg yn dathlu eu litwrgi ar ddydd Sul.

 
Beddrod Joseff o Arimathea yn y Capel Syriaidd
Beddrod Joseff o Arimathea yn y Capel Syriaidd 

Bwâu y Forwyn golygu

Carchar Crist golygu

Yn ochr ogledd-ddwyreiniol y cyfadeilad mae Carchar Crist, yr honnir ei fod lle cafodd Iesu ei ddal.[47] Mae'r Eglwys Uniongred Roegaidd, fodd bynnag yn dangos man arall lle honnir bod Iesu wedi'i ddal.

 
Carchar Crist

Capel Santes Helena golygu

Rhwng Capel Rhaniad y Brethyn Diwnïad a Chapel Groegaidd y Gwawdio mae grisiau sy'n arwain i lawr at Gapel Santes Helena.[48] Mae'r Armeniaid, sy'n berchen arno, yn ei alw'n Gapel Sant Grigor y Goleuwr,[49] ar ôl y sant a ddaeth â Christnogaeth i'r Armeniaid.

 
Capel Santes Helena
Capel Santes Helena 

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Complete compendium of Church of the Holy Sepulchre". Madain Project (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Mawrth 2018.
  2. "Church of the Holy Sepulchre, Jerusalem" (yn Saesneg). Jerusalem: Sacred-destinations.com. 21 Chwefror 2010. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2012.
  3. UN Conciliation Commission (1949). United Nations Conciliation Commission for Palestine Working Paper on the Holy Places (yn Saesneg).
  4. Cust, L. G. A. (1929). The Status Quo in the Holy Places (yn Saesneg). H.M.S.O. for the High Commissioner of the Government of Palestine.
  5. Freeman-Grenville, G. S. P. (1987). "The Basilica of the Holy Sepulchre, Jerusalem: History and Future". The Journal of the Royal Asiatic Society of Great Britain and Ireland 119 (2): 187–207. doi:10.1017/S0035869X00140614. JSTOR 25212148.
  6. Stephenson, Paul (2010). Constantine: Roman Emperor, Christian Victor (yn Saesneg). The Overlook Press. t. 206. ISBN 978-1-46830-300-1.
  7. Rudd, Steve. "The Temple in Jerusalem over the threshing floor which is presently under the Al Kas fountain". Bible.ca (yn Saesneg). Cyrchwyd 29 Tachwedd 2018.
  8. Corbo, Virgilio (1981). Il Santo Sepolcro di Gerusalemme [The Holy Sepulchre of Jerusalem] (yn Eidaleg). Franciscan Press. tt. 34–36.
  9. Owen, G. Frederick, gol. (1983) [1964]. The Thompson Chain-Reference Bible (yn Saesneg) (arg. Fourth improved (updated)). Indianapolis: B. B. Kirkbride Bible Co. t. 323 (appendix).
  10. 10.0 10.1 Owen, G. Frederick, gol. (1983) [1964]. The Thompson Chain-Reference Bible (yn Saesneg) (arg. Fourth improved (updated)). Indianapolis: B.B. Kirkbride Bible Co. t. 323 (appendix).Owen, G. Frederick, ed. (1983) [1964]. The Thompson Chain-Reference Bible (Fourth improved (updated) ed.). Indianapolis: B. B. Kirkbride Bible Co. p. 323 (appendix).
  11. "Church of the Holy Sepulchre, Jerusalem" (yn Saesneg). Jerusalem: Sacred-destinations.com. 21 Chwefror 2010. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2012."Church of the Holy Sepulchre, Jerusalem". Jerusalem: Sacred-destinations.com. 21 Chwefror 2010. Adalwyd 7 Gorffennaf 2012.
  12. NPNF2-01. Eusebius Pamphilius: Church History, Life of Constantine, Oration in Praise of Constantine (yn Saesneg). Christian Classics Ethereal Library. 13 Gorffennaf 2005. Cyrchwyd 19 Medi 2014.
  13. Renner, Gerald (14 Rhagfyr 1996). "Is it the Tomb of Christ? A Search for Evidence" (yn en). Hartford Courant. https://www.courant.com/news/connecticut/hc-xpm-1996-12-14-9612140058-story.html. Adalwyd 29 Tachwedd 2018.
  14. Socrates o Gaergystennin (c. 439). Historia Ecclesiastica (yn Saesneg). Revised and notes by A. C. Zenos, DD. Christian Classics Ethereal Library. tt. 21–22. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2018.
  15. 15.0 15.1 15.2 15.3 15.4 15.5 15.6 15.7 DK 2016.
  16. Romey, Kristin (31 Hydref 2016). "Unsealing of Christ's Reputed Tomb Turns Up New Revelations" (yn en). National Geographic. https://www.nationalgeographic.com/culture/article/jesus-christ-tomb-burial-church-holy-sepulchre. Adalwyd 26 Ebrill 2021.
  17. The "Pilgrim of Bordeaux" reports in 333: "There, at present, by the command of the Emperor Constantine, has been built a basilica, that is to say, a church of wondrous beauty". Itinerarium Burdigalense, p. 594
  18. Stephenson, Paul (2010). Constantine: Roman Emperor, Christian Victor (yn Saesneg). The Overlook Press. t. 206. ISBN 978-1-46830-300-1.Stephenson, Paul (2010). Constantine: Roman Emperor, Christian Victor. The Overlook Press. p. 206. ISBN 978-1-46830-300-1.
  19. "Commemoration of the Founding of the Church of the Resurrection (Holy Sepulchre) at Jerusalem" (yn Saesneg). Yr Eglwys Uniongred yn America. Cyrchwyd 2 Mawrth 2012.
  20. Kroesen, Justin (2000). The Sepulchrum Domini Through the Ages: Its Form and Function (yn Saesneg). Leuven. t. 11. ISBN 978-9042909526.
  21. 21.0 21.1 21.2 21.3 Morris 2005
  22. Bokenkotter, Thomas (2004). A Concise History of the Catholic Church (yn Saesneg). Doubleday. t. 155. ISBN 0-385-50584-1.
  23. MacCulloch, Diarmaid (24 Medi 2009). A History of Christianity: The First Three Thousand Years (yn Saesneg). Penguin Books Limited. t. 1339. ISBN 978-0141957951.
  24. Foakes-Jackson, Frederick John (1921). An Introduction to the History of Christianity, A.D. 590–1314 (yn Saesneg). London: Macmillan.
  25. Fergusson, James (1865). A History of Architecture in All Countries (yn Saesneg). London: J. Murray.
  26. Gold, Dore (2007). The Fight for Jerusalem: Radical Islam, the West, and the Future of the Holy City (yn Saesneg). Washington, DC: Regnery Publishing. ISBN 978-1-59698-029-7.
  27. "Chapel of Saint Helena". Madain Project (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mai 2020. Cyrchwyd 16 Mai 2020.
  28. Corbo, Virgilio (1981). Il Santo Sepolcro di Gerusalemme [The Holy Sepulchre of Jerusalem] (yn Eidaleg). Franciscan Press. tt. 34–36.Corbo, Virgilio (1981). Il Santo Sepolcro di Gerusalemme [The Holy Sepulchre of Jerusalem] (in Italian). Franciscan Press. pp. 34–36.
  29. 29.0 29.1 29.2 Pilgrimages and Pilgrim shrines in Palestine and Syria after 1095, Henry L. Savage, A History of the Crusades: The Art and Architecture of the Crusader States, Volume IV, ed. Kenneth M. Setton and Harry W. Hazard, (University of Wisconsin Press, 1977), 37.
  30. Pringle, Denys (1993). The Churches of the Crusader Kingdom of Jerusalem: Volume 3, The City of Jerusalem: A Corpus (yn Saesneg). Cambridge University Press. tt. 31–32. ISBN 978-0-521-39038-5.
  31. "Parvis and Entry" (yn Saesneg). Gerusalemme San Salvatore Convento Francescano St. Saviour's Monastery. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 8 Mai 2019.
  32. Murphy-O'Connor, Jerome (1998). The Holy Land (yn Saesneg). Oxford University Press. tt. 56, 59. ISBN 978-0191528675.
  33. Romey, Kristin (31 Hydref 2016). "Unsealing of Christ's Reputed Tomb Turns Up New Revelations" (yn en). National Geographic. https://www.nationalgeographic.com/culture/article/jesus-christ-tomb-burial-church-holy-sepulchre. Adalwyd 26 Ebrill 2021.Romey, Kristin (31 Hydref 2016). "Unsealing of Christ's Reputed Tomb Turns Up New Revelations". National Geographic. Retrieved 26 Ebrill 2021.
  34. Mailáth, János Nepomuk Jozsef (1848). Geschichte der europäischen Staaten, Geschichte des östreichischen Kaiserstaates [History of the European states, history of Austrian Imperial State] (yn Saesneg). 4. Hamburg: F. Perthes. t. 262.
  35. DK 2016, t. 99.
  36. Cohen, Raymond (Mai 2009). "The Church of the Holy Sepulchre: A Work in Progress". The Bible and Interpretation. http://www.bibleinterp.com/articles/sepulchre.shtml. Adalwyd 19 Medi 2014.
  37. Romey, Kristin (26 Hydref 2016). "Exclusive: Christ's Burial Place Exposed for First Time in Centuries" (yn en). National Geographic. http://news.nationalgeographic.com/2016/10/jesus-tomb-opened-church-holy-sepulchre/. Adalwyd 30 Hydref 2016.
  38. Hesemann, Michael (1999). Die Jesus-Tafel (yn Almaeneg). Freiburg. t. 170. ISBN 3-451-27092-7.
  39. "Parvis and Entry" (yn Saesneg). Gerusalemme San Salvatore Convento Francescano St. Saviour's Monastery. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-01. Cyrchwyd 8 Mai 2019.. Gerusalemme San Salvatore Convento Francescano St. Saviour's Monastery. Archived from the original Archifwyd 2012-07-01 yn y Peiriant Wayback. on 1 Gorffennaf 2012. Retrieved 8 Mai 2019.
  40. Sudilovsky, Judith (27 Chwefror 2018). "Muslims (literally) hold key to Jerusalem's Church of the Holy Sepulcher". catholicnews.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-11. Cyrchwyd 11 Mai 2019.
  41. Harash, Rinat (30 Tachwedd 2017). "Muslim holds ancient key to Jesus tomb site in Jerusalem". Reuters (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Mai 2019.
  42. Sherwood, Harriet (21 Mawrth 2017). "Jesus's tomb unveiled after $4m restoration" (yn Saesneg). Manceinion. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2018.
  43. DK 2016, t. 98.
  44. Murphy-O'Connor, Jerome (1998). The Holy Land (yn Saesneg). Oxford University Press. tt. 56, 59. ISBN 978-0191528675. Murphy-O'Connor, Jerome (1998). The Holy Land. Oxford University Press. pp. 56, 59. ISBN 978-0191528675.
  45. Warren, E. K.; Hartshorn, W. N.; McCrillis, A. B. (1905). Glimpses of Bible Lands: The Cruise of the Eight Hundred to Jerusalem (yn Saesneg). Boston, MA: The Central Committee. t. 174.
  46. "Armenian Station of the Holy Women". Madain Project. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Hydref 2020. Cyrchwyd 28 Hydref 2020.
  47. "Chapel of Saint Helena". Holyland (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mawrth 2012. Cyrchwyd 3 Mawrth 2019.
  48. Goldhill, Simon (2009). Jerusalem, City of Longing. t. 35. ISBN 9780674034686.
  49. List of Christians in the Holy Land, Documenta Catholica Omnia, p. 87.

Troednodiadau golygu

  1. Adémar de Chabannes recorded that the church of Saint George at Lydda 'with many other churches of the saints' had been attacked, and the 'basilica of the Lord's Sepulchre destroyed down to the ground'. ...The Christian writer Yahya ibn Sa'id reported that everything was razed 'except those parts which were impossible to destroy or would have been too difficult to carry away'."Morris 2005
  2. One of the two chapels within the shrine, a pilaster incorporates a piece of the stone said to have been rolled away from the tomb; it functions as a Greek Orthodox altar.[35]

Darllen pellach golygu

Dolenni allanol golygu

Ceidwaid golygu

Teithiau rhithwir golygu