Mostyn a'r Cryman Bach
Cyfres ddrama deledu Gymraeg mewn 8 pennod gan Idwal Jones ydi Mostyn a'r Cryman Bach a ddarlledwyd ar BBC Cymru ym 1964. Dyma'r gyfres deledu gyntaf yn y Gymraeg i gyflwyno ditectif fel y prif gymeriad. Charles Williams oedd yn portreadu'r cyfreithiwr 'Mostyn', oedd yn ddigon cyfoethog i dreulio rhan fwyaf o'i amser yn hamddena drwy bysgota, chwarae gwyddbwyll, darllen a chyfansoddi dramâu ar gyfer y cwmni drama lleol. Mae ei ddrama ddiweddaraf yn ymwneud â llythyrau gwenwllyd (poisoned pen letters) ac wedi cychwyn ymarfer, mae digwyddiadau'r ddrama yn dod yn wir yn y pentref. [1]
Enghraifft o'r canlynol | drama deledu |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 1964 |
Awdur | Idwal Jones |
Iaith | Cymraeg |
Cysylltir gyda | BBC Cymru |
Math | drama deledu |
Dyddiad y perff. 1af | 10 Tachwedd 1964 |
Cynhyrchydd/wyr | Wilbert Lloyd Roberts |
Cwmni cynhyrchu | BBC Cymru |
Lleolwyd y gyfres mewn pentref dychmygol o'r enw 'Aberafon'.
Roedd Gaynor Morgan Rees yn portreadu 'Bethan', ysgrifenyddes 'Mostyn' a Lisabeth Miles fel 'Gwenda', artist o Lundain sy'n rhannu fflat gyda 'Bethan'.
Darlledwyd y bennod gyntaf ar y 10 Dachwedd 1964.[1]
Cyfresi Cymraeg cynnar 8 neu 12 pennod BBC Cymru fel hon, a'i dilyniant Y Llyn yn y Mynydd, osododd y seiliau ar gyfer creu y gyfres ddrama hirach yn y Gymraeg, sef Pobol y Cwm.[2]
Cast
golygu- Mostyn - Charles Williams
- Bethan - Gaynor Morgan Rees
- Gwenda - Lisabeth Miles
- Len Roberts
- Jane Roberts
- Islwyn Morris
- Glyn Williams
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "BBC Television". www.78rpm.co.uk. Cyrchwyd 2024-10-06.
- ↑ "1974". Wici Pobol y Cwm. Cyrchwyd 2024-10-06.