Gaynor Morgan Rees

actores

Actores o Gymraes yw Gaynor Morgan Rees. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol am ei rhan fel Diana, merch Twm Twm (Ryan Davies) yn y gyfres comedi boblogaidd Fo a Fe, a ddarlledwyd ar BBC Cymru o 1972 hyd 1977. Bu hefyd yn ran o'r gyfres Pobol Y Cwm yn portreadu'r cymeriad Nerys (merch y cymeriad Jacob Ellis) rhwng 1974 a 1991.

Gaynor Morgan Rees
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Yn enedigol o Abercwmboi, Cwm Cynon, mae hi'n ferch i David Morgan Rees a'i wraig Bronwen.[1] Symudodd i weithio i'r BBC ym Mangor yn 1962 ar ôl graddio o'r coleg drama. Mae hi hefyd yn un o'r tri actor cyntaf i'w cyflogi gan Gwmni Theatr Cymru ym 1968, gyda David Lyn a John Ogwen fel y ddau arall. Yn sgil bod yn rhan o'r Cwmni Theatr, hi gafodd y fraint o bortreadu rhai o gymeriadau dramâu eiconig Gwenlyn Parry (Saer Doliau, Tŷ Ar Y Tywod, Y Ffin) a Saunders Lewis, am y tro cyntaf.

Mae hi wedi byw yn y gogledd ers 1984 yn nhref Dinbych lle mae hi'n weithgar gyda Theatr Twm o'r Nant.[2]

Mae'n gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Tref Dinbych.[3]

[detholiad]

Theatr

golygu

1960au

golygu

1970au

golygu
  • Y Claf Diglefyd (1971)
  • Hynt A Helynt Y Ddrama Gymraeg (1971) taith ysgolion
  • Y Ffin (1973) y llwyfannu gwreiddiol o ddrama Gwenlyn Parry gan Cwmni Theatr Cymru

1980au

golygu

1990au

golygu

Teledu a ffilm

golygu
  • Fo a Fe (BBC Cymru, Mawrth 1972 - Ionawr 1977) fel Diana
  • Pobol Y Cwm (1972 - 1992) fel Nerys Cadwaladr
  • Off to Philadelphia in the Morning (1978, teledu) fel Anne Parry
  • Calon Gaeth (2006), fel Nano
  • Arwyr (2008, teledu) fel Megan

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.