Glyn Williams (Pensarn)
Actor o Benysarn, Ynys Môn oedd Glyn Yoland Williams (1927 – 15 Mehefin 1982) neu Glyn Pen'sarn / Glyn Williams, fel y'i adnabyddwyd. Bu'n rhan o gwmnïau drama Theatr Fach Llangefni a Cwmni Theatr Cymru rhwng y 1960au a'r 1980au. Priododd Kitty, ac mae'n dad i'r dramodydd Dewi Wyn Williams a'r actor Yoland Williams, a dau fab arall.[1]
Glyn Williams | |
---|---|
Ffugenw | Glyn Pensarn |
Ganwyd | Glyn Yoland Williams 1927 Penysarn, Ynys Môn |
Bu farw | 15 Mehefin 1982 Penysarn, Ynys Môn |
Dinasyddiaeth | Cymro |
Galwedigaeth | actor |
Cysylltir gyda | Theatr Fach, Llangefni a Cwmni Theatr Cymru |
Plant | Dewi Wyn Williams ac Yoland Williams |
Bu farw'n 55 oed ar y 15 Mawrth 1982, a'i gladdu ym mynwent Penysarn, Ynys Môn.[2] Ar ei garreg fedd, mae'r englyn ganlynol o waith R Jones:
"Y dwys-ddoniol gwreiddiolaf y—ffermwr
a berfformiai loywaf
na wêl ddôl ynghanol haf
na wylo'i gyrten olaf."
Gyrfa
golygu[detholiad]
Theatr
golygu- Y Claf Diglefyd (1969) Theatr Fach Llangefni
- Drws Priodas (1977) Cwmni Theatr Cymru
- Esther (1979) Cwmni Theatr Cymru
- Dinas (1982) Cwmni Theatr Cymru
Teledu
golygu- Mostyn a'r Cryman Bach (1964) BBC Cymru [3]
- Y Llyn yn y Mynydd (1965)
- Y Wawr (1967) BBC Cymru[3]
- Pobol y Cwm (1980-1981)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dewi wins the 2014 Drama Medal | News and Events | Bangor University". www.bangor.ac.uk. Cyrchwyd 2024-10-03.
- ↑ "Glyn Yoland Williams (1927-1982) - Find a Grave..." www.findagrave.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-10-03.
- ↑ 3.0 3.1 "BBC Television". www.78rpm.co.uk. Cyrchwyd 2024-10-06.