Porthenys

(Ailgyfeiriad o Mousehole)

Pentref a phorthladd pysgota yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, yw Porthenys (Saesneg: Mousehole[1] (Cernyweg: Porthenys).[2] Cyfeiria'r enw Cernyweg at ynys fechan St Clement's, ger yr harbwr. Lleolir y pentref ym mhlwyf sifil Penzance, ar ben de-ddwyreiniol Cernyw, ger Newlyn.

Porthenys
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCernyw
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.083°N 5.539°W Edit this on Wikidata
Cod OSSW468264 Edit this on Wikidata
Cod postTR19 Edit this on Wikidata
Map

Roedd Dolly Pentreath (bu farw yn 1777) yn byw ym mhlwyf Paul, sy'n cynnwys y pentref. Dywedir yn aml mai hi oedd y siaradwr Cernyweg olaf.

Heddiw mae'r pentref yn wynebu cyfnod o newid oherwydd y cynnydd mewn "tai haf" yno. Un enghraifft o hyn yw hanes hen westy hanesyddol y Lobster Pot ar yr harbwr. Yn 1938 treuliodd y bardd Cymreig Dylan Thomas a'i wraig newydd Caitlin MacNamara eu mis mêl yno ar ôl priodi yn Penzance. Yn ddiweddar trowyd y Lobster Pot yn fflatiau moethus sydd y tu hwnt i gyrraedd y mwyafrif o bobl leol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 24 Hydref 2019
  2. Maga Cornish Place Names Archifwyd 2017-06-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 24 Hydref 2019

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gernyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato