Cernywes a ystyrir gan rai y siaradwr uniaith Gernyweg olaf oedd Dolly Pentreath (16 Mai 1692Rhagfyr 1777). Sail y traddodiad mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd Dolly Pentreath yw adroddiad Daines Barrington am gyfweliad gyda Dolly. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y 19g, er bod ganddynt wybodaeth o Saesneg hefyd.

Dolly Pentreath
Ganwyd1692, 1685 Edit this on Wikidata
Cernyw Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd16 Mai 1692 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Bu farw1777 Edit this on Wikidata
Cernyw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethfishmonger, person dweud ffortiwn Edit this on Wikidata

Er i Dolly ddweud, yn ôl y chwedl, "My ny vydn kewsel Sawsnek!" ("dwi ddim isio siarad Saesneg!"), roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym 1676.

Roedd Pentreath yn byw ar hyd ei hoes ym mhlwyf Paul, ger 'Porthynys' (Saesneg: Mousehole), lle y cafodd ei chladdu hefyd; codwyd cofeb iddi ym mur y llan yn 1860 gan Louis Lucien Bonaparte, nai Napoleon.

Cofeb iddi gan Louis Lucien Bonaparte

Heddiw mae sawl person yn siarad y Gernyweg adfywiedig fel mamiaith.

Ganwyd Pentreath ym Porthenys (Saesneg: Mousehole), Cernyw a'i bedyddio ar 16 Mai 1692,[1] yr ail o chwech o blant y pysgotwr Nicholas Pentreath a'i ail wraig Jone Pentreath.[2] Honnodd yn ddiweddarach na allai siarad gair o Saesneg tan oedd yn 20 oed. Pa un a yw hyn yn gywir ai peidio, Cernyweg oedd ei hiaith gyntaf.[1] Yn ei henaint, cofiodd ei bod hi, fel plentyn, wedi gwerthu pysgod yn Pennsans yn y Gernyweg; roedd y mwyafrif o drigolion lleol (hyd yn oed y bonedd) yn ei deall.[3] Roedd hi'n byw ym mhlwyf Breweni (Saeseneg: Paul), wrth ymyl Porthenys.

Ni phriododd Pentreath erioed, ond ym 1729 esgorodd ar fab, John Pentreath, a oedd yn byw tan 1778.[1] Disgrifir Pentreath fel "hen fatriarch yr iaith Gernyweg [. . . ] Roedd Dolly yn bysgotwraig o Gernyw a werthodd ei physgod o amgylch Pennwydh (Penwith) a Phensans. Yn Mhensans enillodd yr enw da am fod y siaradwr Cernyw brodorol olaf, er efallai nad hi oedd."[4]

Blynyddoedd diweddarach, marwolaeth, ac etifeddiaeth

golygu

Ym 1768, bu Daines Barrington yn chwilio Cernyw am siaradwyr yr iaith ac ym Porthenys daethpwyd o hyd i Pentreath, yn gwerthu pysgod y dywedir ei bod tua 82 oed, ac yn gallu "siarad Cernyweg yn rhugl iawn." Yn 1775 cyhoeddodd erthygl arni yng nghyfnodolyn Cymdeithas yr Hynafiaethwyr Archaeologia mewn erthygl o'r enw "On the Expiration of the Cornish Language." Nododd Barrington fod y "cwt yr oedd hi'n byw ynddo mewn lôn gul," a'i fod wedi dod o hyd i ddwy fenyw arall, a oedd yn byw gyferbyn a hi, rhyw ddeg neu ddeuddeg mlynedd yn iau na Pentreath, nad oedden nhw'n gallu siarad Cernyweg yn rhwydd, ond a oedd yn ei rhannol ddeall. Bum mlynedd yn ddiweddarach, dywedwyd bod Pentreath yn 87 oed ac ar y pryd roedd ei thyddyn (neu 'gwt') yn "wael ac yn cael ei gynnal a'i gadw gan y plwyf yn bennaf, a'i bod yn dweud ffortiwn pobl ac yn parablu Cernyweg." [3]

Ym mlynyddoedd olaf ei bywyd, daeth Pentreath yn enwog yn lleol am ei gwybodaeth am Gernyweg.[5] Tua 1777, tynnwyd llun ohoni gan John Opie (1761-1807), ac ym 1781 engrafiad ohoni gan Robert Scaddan, llun a gyhoeddwyd.[1]

Ym 1797, dywedodd pysgotwr o Borthenys wrth Richard Polwhele (1760-1838) fod William Bodinar "yn arfer siarad â hi am oriau gyda'i gilydd yng Nghernyweg; ac nad oedd eu sgwrs yn cael ei deall gan bron neb."[6] Mae ei chyfrif ei hun fel y'i cofnodwyd gan Daines Barrington yn nodi ei bod hefyd yn siarad Saesneg.

Mae Dolly Pentreath wedi pasio’n chwedl am felltithio pobl mewn llif hir o regfeydd Cernyweg, ffyrnig pan oedd yn ddig.[7] Ystyrir bod ei marwolaeth yn nodi marwolaeth y Gernyweg fel iaith gymunedol, fyw.

Mae yna lawer o straeon amdani. Dywedir ei bod yn aml yn galw pobl yn "kronnekyn hager du," yn llyffant du hyll, "a dywedir ei bod hyd yn oed yn wrach. Mae nifer o straeon eraill wedi bod ynghlwm wrthi, ond mae eu cywirdeb yn cael ei amau. Credwyd ar un adeg ei bod yn union yr un fath â Dorothy Jeffrey neu Jeffery y cofnodir ei chladdedigaeth yng nghofrestr plwyf Paul, ond mae amheuaeth ynghylch hyn (fodd bynnag mae DNB Rhydychen (2004) yn nodi hyn).

Ni chofnodir claddedigaeth Dorothy Pentreath, ond dadleuwyd bod hyn yn ymddangos yng nghofrestr y plwyf dan yr enw Dolly Jeffery, yr awgrymir ei fod yn gyfenw tad ei mab. Derbynnir y theori hon gan Eiriadur Bywgraffiad Cenedlaethol Rhydychen.[1]

Ym 1887, symudwyd ei heneb i'r safle lle roedd ei bedd, bedd heb groes nag enw, a chodwyd sgerbwd y credir ei fod yn eiddo iddi.[1] Mae Pêr-Jakez Helias, yr awdur Llydaweg, wedi cysegru cerdd i Dolly Pentreath.

Siaradwr Cernyweg brodorol olaf

golygu

Fel gyda llawer o "siaradwyr brodorol olaf," mae yna ddadlau ynghylch statws Pentreath. Nid hi yw siaradwr olaf yr iaith, ond yn hytrach, hi oedd y siaradwr brodorol rhugl olaf.[1]

Ar ôl ei marwolaeth, derbyniodd Barrington lythyr, a ysgrifennwyd yng Nghernyweg ynghyd â chyfieithiad Saesneg, gan bysgotwr ym Mousehole o’r enw William Bodinar (neu Bodener) yn nodi ei fod yn gwybod am bump o bobl a all siarad Cernyweg yn y pentref hwnnw. Mae Barrington hefyd yn siarad am John Nancarrow o Marazion a oedd yn siaradwr brodorol ac a oroesodd i'r 1790au.[8][9]

Mae yna un siaradwr Cernyw traddodiadol hysbys, John Mann, a oedd yn blentyn yn Boswydnek (Boswednack), ym mhlwyf Eglossenar; (Zennor), a oedd yn sgwrsio yng Nghernyweg â phlant eraill, ac a oedd yn fyw yn 80 oed ym 1914. Ef oedd y goroeswr olaf y gwyddys amdano allan o nifer o siaradwyr Cernyweg traddodiadol y 19g gan gynnwys Jacob Care o St Ives (bu f. 1892); Elizabeth Vingoe o Boswarva Uwch, Madron (bu f. 1903 ac a ddysgodd o leiaf rhywfaint o Gernyweg i'w mab); John Davey iau (bu f. 1891) ac uwch, o Boswednack; Anne Berryman (1766–1854), hefyd o Boswednack.[10][11]

Ardystiodd Matthias Wallis o St Buryan ym 1859 fod ei nain, Ann Wallis, a fu farw tua 1844, wedi siarad Cernyweg yn dda. Dywedodd hefyd y gallai Jane Barnicoate, a fu farw tua 1857, siarad Cernyweg hefyd.[12]

Gweler hefyd

golygu
  • Chesten Marchant, y siaradwr Cernyw olaf monoglot, yn ôl pob sôn
  • John Davey, un o'r bobl olaf â gwybodaeth draddodiadol am Gernyweg
  • Ned Maddrell, siaradwr brodorol olaf Manaweg, iaith Geltaidd arall
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 (Saesneg) Spriggs, Matthew (2004). "Pentreath, Dorothy (bap. 1692, d. 1777)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/14692.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  2. W. T. Hoblyn, "The probable parentage of Dorothy Pentreath", in Old Cornwall, 3/11 (1936), pp. 7–9
  3. 3.0 3.1 Peter Berresford Ellis, The Cornish language and its literature, pp. 115–118 online
  4. "Dolly Pentreath". BBC. Cyrchwyd 4 August 2015.
  5. Barrington, "On the expiration of the Cornish language", p. 283
  6. Richard Polwhele, The History of Cornwall, (7 volumes, 1803–1808), vol. 5, pp. 19–20
  7. Harris, J. Henry. "Dolly Pentreath: The Fish-Wife of Mousehole". Britannia.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 June 2012. Cyrchwyd 19 May 2012.
  8. Ellis, P. Berresford, The Story of the Cornish Language (Truro: Tor Mark Press, 1971)
  9. Ellis, P. Berresford (1974) The Cornish Language and its Literature. London: Routledge & Kegan Paul
  10. Rod Lyon, Cornish – The Struggle for Survival, 2001
  11. "Legend of Dolly Pentreath outlived her native tongue". This is Cornwall. 2011-08-04. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 February 2012. Cyrchwyd 2014-02-19.
  12. Alan M. Kent, Tim Saunders, Looking at the Mermaid: A Reader in Cornish Literature 900–1900, Francis Boutle, 2000