Movyans Skolyow Meythrin

Mudiad ysgolion meithrin yr iaith Gernyweg

Mae Movyans Skolyow Meythrin (MSM) (Cymraeg: Mudiad Ysgol Meithrin mewn Cernyweg) yn fudiad di-elw a sefydlwyd gan Rhisiart Tal-e-bot, sydd hefyd yn gyfarwyddwr presennol iddo, ers 2009. Wedi'i leoli yng Ngholeg Cernyw yn Camborne, ei nod yw lledaenu'r Gernyweg ymhlith plant bach a'u teuluoedd.[1] Mae'n debyg i sefydlu Mudiad Ysgolion Meithin Cymru a sefydlwyd yng Nghymru yn yr 1970au.

Movyans Skolyow Meythrin
Enghraifft o'r canlynolsefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2009 Edit this on Wikidata
SylfaenyddRhisiart Tal-e-bot Edit this on Wikidata
PencadlysCamborne Edit this on Wikidata
Enw brodorolMovyans Skolyow Meythrin Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://movyansskolyowmeythrin.yolasite.com Edit this on Wikidata

Skol dy'Sadorn Kernewek golygu

Gan ddechrau yn 2009 darparodd Skol dy'Sadorn Kernewek ysgol feithrin ddydd Sadwrn i blant ifanc yn ogystal â gwersi Cernyweg i rieni ar yr un pryd.[2][3][4]

Keur Kernewek golygu

Yn 2012 cynhyrchodd Tal-e-bot Keur Kernewek, CD o ganeuon yn y Gernyweg ar gyfer plant dan 5 oed. Gwnaethpwyd hyn gyda chymorth Gorsedh Kernow, Cyngor Tref Redruth, DBS Music, y Cornish Language Partnership a’r grŵp roc Cernyweg Hanterhir, a gynhyrchodd rai o’r traciau, a bu myfyrwyr Prifysgol Plymouth yng Ngholeg Cernyw yn cynorthwyo. Mae 45 trac o ganeuon Cernyweg byr ar y CD gyda llyfryn o delynegion yn Gernyweg a Saesneg.[5]

Skol Veythrin Karenza golygu

Skol Veythrin Karenza, a sefydlwyd gan MSM yn 2013, fydd yr ysgol feithrin Gernyweg amser llawn gyntaf gyda statws cofrestredig gan y corff safonni addysg, Ofsted.[6]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cornish language nursery". Crowdfunding Cornwall. Cyrchwyd 6 Hydref 2014.
  2. "Toddlers get lessons in Cornish". BBC News. 16 January 2010. Cyrchwyd 7 September 2014.
  3. "Cornish language creche opened". This is Cornwall. 12 Ionawr 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Medi 2014. Cyrchwyd 7 Medi 2014.
  4. Woolcock, Nicola (15 Ionawr 2010). "Have a good dy: Cornish language is taught in nursery". The Times. Cyrchwyd 7 Medi 2014.
  5. "CD and booklet have songs in Cornish for pre-school children". West Briton. 12 Gorffennaf 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Hydref 2014. Cyrchwyd 7 Medi 2014.
  6. Morton, Katy (8 Tachwedd 2013). "First Cornish language pre-school to open". MA Education Limited. Nursery World. Cyrchwyd 7 Medi 2014.