Prifysgol Plymouth
Prifysgol ym Mhlymouth a phrifysgol fwyaf yn ne-orllewin Lloegr ydy Prifysgol Plymouth (Saesneg: University of Plymouth), gyda dros 30,000 o fyfyrwyr a'r pumed mwyaf ym Mhrydain yn ôl nifer y myfyrwyr.[4] Mae bron i 3,000 o aelodau staff gan ei gwneud yn un o gyflogwyr mwyaf de-orllewin Lloegr, ac mae ganddi incwm blynyddol o tua £160 miliwn.
Math | prifysgol, sefydliad addysg uwch, sefydliad addysgol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Plymouth |
Sir | Plymouth, Dinas Plymouth |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 50.3741°N 4.1385°W |
Cod post | PL4 8AA |
Prifysgol Plymouth | |
---|---|
University of Plymouth | |
Adeilad Ysgol Gelf Prifysgol Plymouth | |
Sefydlwyd | 1992, o'r Polytechnic South West |
Math | Cyhoeddus |
Is-ganghellor | Yr Athro Wendy Purcell[1] |
Staff | 3,000 |
Myfyrwyr | 30,540[2] |
Israddedigion | 24,490[2] |
Ôlraddedigion | 6,050[2] |
Lleoliad | Plymouth, Lloegr |
Campws | Trefol |
Lliwiau | Terracotta, glas tywyll a du[3] |
Tadogaethau | Alliance of Non-Aligned Universities Association of Commonwealth Universities |
Gwefan | http://www.plymouth.ac.uk/ |
Y brifysgol
golyguMae Prifysgol Plymouth yn brifysgol fodern, sydd wedi cael ei ddatblygu'n sylweddol, gan gynnwys nifer o adeiladau newydd. Ar sail canlyniadau 2008, mae Plymouth wedi neidio 15 safle yn y restr y "Research Assesment Excercise" i ymuno â'r 50 prifysgol orau ym Mhrydain, hwy sydd wedi gwella fwyaf ym maes perfformiad ymchwil ers yr RAE diwethaf yn 2001.[5] Neidiodd y brifysgol hefyd 33 safle, yn nhablau cynghrair The Guardian' a gyhoeddwyd ym mis Mai 2006, o 73ydd safle yn 2005 i 40fed safle yn 2006. Cododd bum safle i 35ed yng gyhoeddiad 2007;[6] Mae tablau The Times, yn wahanol i'r Guardian yn cynnwys perfformiadau ymchwil wrth gyfrifo'r safleoedd, ac mae'n nhw'n rhestru Plymouth yn 55ed,[7] ac yn ei alw'n un o'r ddwy brifysgol fodern orau ym Mhrydain.[8] Disgrifiai'r Guardian y brifysgol fel un sy'n "meddwl ymlaen", yn ogystal â gosod Plymouth yn y "20 uchaf" ar gyfer deg pwnc yn cynnwys gwaith cymdeithasol (5ed), pensaernïaeth, celfyddyd gain, a drama. Ynghyd â'r ailstrwythuro presennol, targed y brifysgol yw i ddod yn "Y brifysgol menter" ("The enterprise university"),[9] peth colynnol mewn dinas a adnabyddir fel prifddinas menter de-orllewin Lloegr.[10]
Yr athro Roland Levinsky oedd is-ganghellor y brifysgol hyd ei farwolaeth ar 1 Ionawr 2007, pan gerddodd mewn i geblau trydanol byw a oedd wedi disgyn mewn storm.[11] Cymerodd yr athro Mark Cleary ei swydd dros-dro (ef yw is-ganghellor Prifysgol Bradford erbyn hyn),[12] ac olynwyd ef gan yr athro Steve Newstead. Ar 1 Rhagfyr 2007, daeth Wendy Purcell yn is-ganghellor.
Hanes
golyguColeg Polytechnic oedd y brifysgol yn wreiddiol, gyda Polytechnic Plymouth, Coleg Rolle a Choleg Seale-Hayne yn rhan ohoni. Ailenwyd yn "Polytechnic South West" ym 1989, gan barhau gyda'r enw hwnnw hyd iddynt ennill statws prifysgol ym 1992 ynghyd â cholegau polytechnic eraill. Daeth Ysgol Astudiaethau Morwrol Plymouth School a Choleg Tavistock yn rhan ohoni yr un adeg.
Yng nghyfnod yr is-gangellor ar y pryd, Roland Levinsky, dechreuodd y brifysgol weithredu polisi o ganoli ei weithgareddau ar gampusau ym Mhlymouth. Symudodd y Gyfadran Celfyddydau o Gaerwysg i adeilad celf newydd a enwyd ar ôl Roland Levinsky, ym mis Awst 2007, gan ddod a phynciau'n cynnwys Celfyddyd Gain, Hanes Celf, Ffotograffeg, a Dylunio 3-D Design i Blymouth. Yr un adeg, symudodd y Gyfadran Theatr a Pherfformiad, a leolwyd yn Exmouth, i'r adeilad hwn yn ogystal.
Symudwyd y Gyfadran Addysg a leolwyd gynt yng nghampws Exmouth, ar hen safle Coleg Rolle, i adeilad newydd Adeilad Rolle ym mis Awst 2008. Roedd y penderfyniad i'w symud yn un amhoblogaidd ymysg myfyrwyr Exmouth, a bu sawl gorymdaith i brotestio ac ymgyrch i gadw'r campws ar agor.[13]
Un eithriad i'r gweithgareddau canoli, yw gwaith y brifysgol yn y maes addysg ar gyfer y galwedigaethau iechyd. Caiff eu myfyrwyr eu haddysgu mewn Colegau Addysg Bellach drwy gydol Dyfnaint, Cernyw a Gwlad yr Haf, megis yng Ngholeg Celf Dartington. Ers 2006, mae'r brifysgol yn rhedeg coleg newydd, Coleg Meddygaeth a Deintyddiaeth Peninsula, ar y cyd gyda Prifysgol Caerwysg a'r Gwasnanaeth Iechyd Genedlaethol yn yr ardal.[14] Caiff adeilad newydd yn Derriford, i'r gogledd o'r ddinas, a agorwyd yn 2008 ac a gostiodd £16 miliwn, ei rannu rhwng Goleg Meddygaeth a Deintyddiaeth Peninsula a Chyfadran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.[15] Mae'r adeilad newydd yn darparu ystafelloedd dysgu, swyddfeydd, labordy sgiliau clinigol a chyfleusterau ymchwil.[14]
Mae datblygiadau a gwblhawyd yn ddiweddar yn cynnwys Sgwar Portland, ymestyniad i'r llyfrgell, ac adnoddau labory a dysgu newydd ac wedi eu adnewyddu mewn nifer o adailadau campws, neuaddau preswyl ac Ysgol Fusnes.[15]
Yn 2006, cafodd adfeilion lloches cyrch awyr yr Ail Ryfel Byd eu dadorchuddio ar y campws yn Sgwar Portland.[16] Disgynodd fom ar y lleoliad hwn yn ystod y Blits ar 22 Ebrill 1941, gan ladd dros 70 o sifiliaid, gan gynnwys mam a'i chwe phlentyn.[16]
Dewiswyd Prifysgol Plymouth gan y Royal Statistical Society ym mis Hydref 2008, i ddod yn gartref iw Ganolfan ar gyfer Addysg Ystadegol.[17]
Academyddion nodedig
golyguMae staff y brifysgol yn cynnwys Colin Rallings a Michael Thrasher, sydd wedi ysgrifennu'n eang am systemau etholiadol, ymddygiad pleidleisio, chanlyniadau arolygon barn a gwleidyddiaeth Prydeinig, maent yn ymddangos yn gyson ar raglenni teledu etholiadau cenedlaethol ar y BBC ac ITV. Mae academyddion eraill o ~iod yn cynnwys Dr Roy Lowry[18], a dorodd record y byd ar gyfer lawnsio y nifer mwyaf o rocedi ar unwaith, ym mis Awst 2006;[19] Dr Iain Stewart sydd wedi bod yn westai ar nfer o raglenni dogfen y BBC megis Journeys into the Ring of Fire a Journeys from the Centre of the Earth; a hefyd Dr Angela Smith sydd wedi cyhoeddi nifer o weithiau sydd wedi cael eu dathlu, ar bwnc rhyw a rhyfela yn yr 20g.
Cyn-fyfyrwyr nodedig
golygu- Graddiodd y cyflwynydd CBBC, Jeff Turner o'r brifysgol yn 2002.
- Graddiodd y band roc Seisnig, Muse, o'r brifysgol yn 2008, gyda Doethuriaethau Celfyddydau anrhydeddus.[20]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Staff details: Wendy Purcell. Prifysgol Plymouth. Adalwyd ar 24 Mehefin 2009.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2006/07. Higher Education Statistics Agency. Adalwyd ar 12 Ebrill 2008.
- ↑ Academic dress and gowning. Prifysgol Plymouth. Adalwyd ar 24 Mehefin 2009.
- ↑ Largest universities. PUSH.
- ↑ Research Assesment Excercise. Research Research.
- ↑ Plymouth jumps 30 places in Guardian league tables. Prifysgol Plymouth (2 May 2006).
- ↑ Top Universities 2007 League Table. The Times (5 Mehefin 2006).
- ↑ Top two position for Plymouth. Prifysgol Plymouth (5 Mehefin 2006).
- ↑ the enterprise university. Prifysgol Plymouth (2009).
- ↑ University guide: University of Plymouth. The Guardian (2 Mai 2006).
- ↑ Power cable kills university boss. BBC (2 Ionawr 2007).
- ↑ University boss successor named (4 Ionawr 2007).
- ↑ Teaching college closure agreed. BBC News (11 Tachwedd 2005).
- ↑ 14.0 14.1 Student dental school is approved. BBC (26 Ionawr 2006).
- ↑ 15.0 15.1 Medical school plans new headquarters. BBC Devon (6 Ionawr 2002).
- ↑ 16.0 16.1 Tony Rees, Gerry Cullum, Steve & Karen Johnson (8 Gorffennaf 2007). Portland Square Air Raid Shelter at Plymouth. CyberHeritage.com. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2007.
- ↑ Plymouth chosen for Prestigious Centre. University of Plymouth (17 Hydref 2008). Adalwyd ar 21 Hydref 2008.
- ↑ Staff details: Dr Roy Lowry. UPrifysgol Plymouth. Adalwyd ar 24 Mehefin 2009.
- ↑ Firework Record goes with a Bang. BBC (16 Awst 2006).
- ↑ Muse are now doctors. Muse, Blogspot. Adalwyd ar 2 Hydref 2008.