Moyshe-Leyb Halpern
Bardd yn yr iaith Iddew-Almaeneg o'r Unol Daleithiau oedd Moyshe-Leyb Halpern (2 Ionawr 1886 – 31 Awst 1932).
Moyshe-Leyb Halpern | |
---|---|
Hunanbortread o Moyshe-Leyb Halpern (1927). | |
Ganwyd | 2 Ionawr 1886 Zolochiv |
Bu farw | 31 Awst 1932 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Ganed ef yn Zlotchev (bellach Zolochiv, yr Wcráin), Galisia, a fu dan reolaeth Awstria-Hwngari. Aeth i Fienna yn 12 oed i gael ei hyfforddi'n baentiwr arwyddion, ac yno dysgodd am sosialaeth a llenyddiaeth Almaeneg. Dechreuodd ysgrifennu drwy gyfrwng yr Almaeneg, ond wedi iddo ddychwelyd gartref a dod dan ddylanwad awduron a deallusion Iddew-Almaeneg, trodd at yr iaith honno yn unig. Ymfudodd i Ogledd America ym 1908, a bu'n byw mewn tlodi ym Montréal ac yn Efrog Newydd.[1]
Aelod o gylch Di Yunge, beirdd ifainc Efrog Newydd a fu dan ddylanwad chwyldroadwyr Rwsia, oedd Halpern. Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o gerddi, In Nyu-York, ym 1919, gan ennill iddo sylw ei gyfoedion a llwyddiant ariannol. Cyfrannodd at y papur newydd comiwnyddol dyddiol Di frayhayt hyd at 1924, ac yn yr hwnnw cyhoeddwyd ei gerdd enwocaf, "Zlotchev, mayn heym". Cyhoeddwyd ei ail gyfrol o gerddi, Di goldene pave, ym 1924, a rhagor o'i farddoniaeth wedi ei farwolaeth yn Moyse Leyb Halpern (1934). Aeth ar sawl taith trwy'r Unol Daleithiau yn darllen ei gerddi i gynulleidfaoedd. Bu farw Moyshe-Leyb Halpern yn Efrog Newydd yn 46 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Moyshe Leyb Halpern. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Rhagfyr 2021.