Llewelyn Morris Humphreys
Ganwyd y gangster Llewelyn Morris Humphreys (20 Ebrill 1899[1] – 23 Tachwedd 1965) yn Chicago yr Unol Daleithiau (UDA). Ei lysenwau yw Murray the Hump neu Y Camel ac roedd yn un o brif gynghreiriaid Al Capone. Cymry Cymraeg o Garno, Y Trallwng oedd ei rieni, Bryan Humphreys ac Ann Wigley.
Llewelyn Morris Humphreys | |
---|---|
Murray a'i wraig Jeanne | |
Ganwyd | 1 Ionawr 1899 Chicago |
Bu farw | 23 Tachwedd 1965 Chicago |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Ef a Jack "Machine Gun" McGurn, mae'n debyg, oedd arweinwyr a threfnwyr Cyflafan Sant Ffolant yn Chicago, 1929. Dyma gyflafan mwyaf gawaedlyd ac enwog y ganrif, pan ddilëwyd llawer o ddynion eu gelyn, y gangster Bugs Moran.
Roedd yn ddyn busnes effeithiol iawn, gan ei fod yn buddsoddi'r arian roedd yn ei wneud drwy dwyll a gamblo i mewn i fusnesau cyfreithlon, glân; golygai hyn mai unwaith yn unig y cafodd ei arestio ac ni chafodd ei gyhuddo o drosedd o gwbwl.
Sgwenodd John Morgan gofiant iddo dan y teitl No Gangster More Bold[2] Perthynas iddo yw cyn-lywydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ FBI - Manylion am Murray Humphreys adalwyd 29 Mai 2017
- ↑ Morgan, John; 1985. No Gangster More Bold Hodder & Stoughton Ltd; ISBN 9780340263877