Mursen las amrywiol
Coenagrion pulchellum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Zygoptera |
Teulu: | Coenagrionidae |
Genws: | Coenagrion |
Rhywogaeth: | C. pulchellum |
Enw deuenwol | |
Coenagrion pulchellum (Vander Linden, 1825) |
Mursen (math o bryfyn) yn nheulu'r Coenagrionidae yw'r Mursen las amrywiol (llu: mursennod glas amrywiol; Lladin: Coenagrion pulchellum; Saesneg: Variable Damselfly) sydd o fewn y genws a elwir yn Coenagrion. Mae'r mursennod (Zygoptera) a'r gweision neidr (Anisoptera) ill dau'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Odonata. Mae'r Mursen las amrywiol yn frodorol o Ewrop, ac mae'n eitha cyffredin yn Iwerddon, ac fe'i ceir yng Nghymru.[1]
Fel llawer o fursennod (a elwir yn gyffredinol hefyd yn 'weision neidr') eu cynefin yw pyllau o ddŵr, llynnoedd araf eu llif, nentydd neu afonydd glân.
Mae adenydd yr oedolyn yn 33mm ac fe'i welir yn hedfan rhwng Mai a Medi. Mae ei loiw'n amrywio cryn dipyn, a dyna hanfod ei henw. Gellir ei chamgymryd am y Fursen las asur yn hawdd. Mae'r oedolyn yn aros ar lan y llyn neu'r pwll, ond gall y Fursen las amrywiol (neu'r C. pulchellum fel y caiff ei galw gan y naturiaethwr) stelcian o gwmpas cae o wair cyfagos.
Gweler hefyd
golygu- Rhestr o fursennod yn y teulu Coenagrionidae
- Odonata - yr Urdd o bryfaid sy'n cynnwys y gweision neidr a'r mursennod.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Variable Damselfly". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 27 Mai 2011.