Mursen las asur

rhywogaeth o fursennod
Coenagrion puella
Gwryw
Benyw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Teulu: Coenagrionidae
Genws: Coenagrion
Rhywogaeth: C. puella
Enw deuenwol
Coenagrion puella
(Linnaeus, Systema Naturae

Mursen (math o bryfyn) yn nheulu'r Coenagrionidae yw'r Mursen las asur (llu: mursennod glas asur; Lladin: Coenagrion puella; Saesneg: Azure Damselfly) sydd o fewn y genws a elwir yn Coenagrion. Mae'r mursennod (Zygoptera) a'r gweision neidr (Anisoptera) ill dau'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Odonata. Mae'r Mursen las asur i'w chael yn y rhan fwyaf o Ewrop, ac yng Nghymru.

Fel llawer o fursennod (a elwir yn gyffredinol hefyd yn 'weision neidr') eu cynefin yw pyllau o ddŵr, llynnoedd araf eu llif, nentydd neu afonydd glân.

Mae adenydd yr oedolyn yn 33mm ac fe'i welir yn hedfan rhwng Mai a Medi. Mae ei liw'n unigryw: pen a thoracs glas a du sydd gan y gwryw, ac abdomen glas gyda marciau du.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu