Mursen las gyffredin

Enallagma cyathigerum
young adult male
young adult female
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Teulu: Coenagrionidae
Genws: Enallagma
Rhywogaeth: E. cyathigerum
Enw deuenwol
Enallagma cyathigerum
(Charpentier, 1840)

Mursen (math o bryfyn) yn nheulu'r Coenagrionidae yw'r Mursen las gyffredin (llu: mursennod glas cyffredin; Lladin: Enallagma cyathigerum; Saesneg: Common blue damselfly) sydd o fewn y genws a elwir yn Enallagma. Mae'r mursennod (Zygoptera) a'r gweision neidr (Anisoptera) ill dau'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Odonata. Mae'r Mursen las gyffredin i Ewrop ar wahân i Wlad yr Iâ; mae hefyd i'w chael yng Nghymru.

Fel llawer o fursennod (a elwir yn gyffredinol hefyd yn 'weision neidr') eu cynefin yw pyllau o ddŵr, llynnoedd araf eu llif, nentydd neu afonydd glân.

Mae adenydd yr oedolyn yn 32mm ac fe'i welir yn hedfan rhwng Mai a Medi. Mae'n ddigon hawdd camgymryd y Fursen las gyffredin (E. cyathigerum) am Coenagrion puella, ond mae gan y Fursen las gyffredin fwy o las nag o ddu ar ei thoracs. Mae'r ail segment o'r thoracs hefyd yn bur wahanol, gan fod gan E. cyathigerum smotyn amlwg gyda llinell oddi tano yn arwain tuag at y drydedd segment.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu