Astudiaeth ffyngau yw mycoleg (weithiau meicoleg).[1] O ganlyniad i ymchwil yn y maes hwn, datblygwyd meddyginiaethau megis gwrthfiotigau (er enghraifft penisilin a streptomysin) a statinau sy'n gostwng colesterol. Mae mycoleg hefyd o bwys yn y diwydiannau cynnyrch llaeth, gwin, bwydydd pob, a lliwurau ac inciau.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  mycoleg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Mai 2017.
  2. (Saesneg) mycology. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Mai 2017.