Mynachdy (ardal o Gaerdydd)
ardal yng Nghaerdydd
Maestref yng Nghaerdydd yw Mynachdy sydd yng Nghymuned Gabalfa.
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.507°N 3.2°W |
Mae'n ffinio ag ardaloedd Gabalfa, Llwyn Fedw a Cathays. Mae'n agos i Brifysgol Caerdydd a'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn ogystal â lletai myfyrwyr.
Roedd gan Abaty Llantarnam dir maenor yma o'r enw Llys Talybont a dyma, mae'n debyg, yw tarddiad yr enw. Safai hen ffermdy o'r enw Llys Talybont (17g) yn agos at Fferm y Mynachdy - rhwng Ffordd y Gogledd a Gorsaf reilffordd Llandaf.[1][2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Institute of Historical Research; Archifwyd 2013-09-18 yn y Peiriant Wayback Survey of Llystalybont, 1653. Adalwyd 2013
- ↑ The History of Gabalfa; adalwyd 6 Hydref 2013