Abaty Llantarnam

abaty rhestredig Gradd II* yn Llanfihangel Llantarnam

Abaty Sistersaidd ger Llanfihangel Llantarnam yn Nhorfaen yw Abaty Llantarnam. Sefydlwyd yr abaty yn 1179 gan fynachod o Abaty Ystrad Fflur dan nawdd Hywel ap Iorwerth, arglwydd Caerllion. Efallai mai yng Nghaerllion y sefydlwyd y fynachlog gyntaf, ond cofnodir ei bod yn Llantarnam erbyn y 13g.

Abaty Llantarnam
Mathabaty, plasty, lleiandy Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanfihangel Llantarnam Edit this on Wikidata
SirLlanfihangel Llantarnam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr31 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6308°N 2.99611°W Edit this on Wikidata
Map
Perchnogaethteulu Morgan Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion
Mynedfa plasdy 'Abaty Llantarnam'.

Hanes golygu

Codwyd yr abaty yn Nant Teyrnon, enw sydd efallai'n gysyltiedig â chymeriad Teyrnon Twrf Fliant, arglwydd Gwent Is Coed yn y chwedl Pwyll Pendefig Dyfed, y gyntaf o'r Pedair Cainc.

Roedd yr abad John ap Hywel yn un o brif gefnogwyr Owain Glyn Dŵr; lladdwyd ef ym Mrwydr Pwllmelyn yn 1405. Diddymwyd y fynachlog yn 1536; cofnodwyd yr adeg honno fod yno chwe mynach ac incwm blynyddol o £71.

Yn y 1830au, trowyd yr abaty yn blasdy, ac mae'n awr yn gartref i Chwiorydd Sant Joseff. Credir fod y bwâu yn Eglwys Llanfihangel Llantarnam wedi dod o'r abaty.

Cyfeiriadau golygu