Mynachlog y Drindod Sanctaidd, Hebron
Mynachlog Uniongred Rwsiaidd yw Mynachlog y Drindod Sanctaidd gydag Eglwys y Cyndadau Sanctaidd a saif yn Hebron (Arabeg: كنيسة المسكوبية). Fe'i sefydlwyd yn yr 20g ar safle Hen Dderwen Mamre ym mhenrtref Mamre.[1] Prynwyd y tiroedd gan Archimandrite Antonin (Kapustin) ar gyfer Eglwys Uniongred Rwsia yn y 19g ac fe'u ehangwyd yn ddiweddarach.[2] Medianwyd y fynachlog gan Eglwys Orthodox Rwsia y tu allan i Rwsia neu ROCOR tan 1997 pan gipiodd heddlu Palesteina ef a’i droi drosodd i Batriarchaeth Moscow.[3][4] Mae anghydfodau y am perchnogaeth yn parhau.[5]
Clochdy'r fynachlog | |
Enghraifft o'r canlynol | Eastern Orthodox monastery |
---|---|
Gwlad | Palesteina |
Dechrau/Sefydlu | 1904 |
Enw brodorol | Монастырь Святой Троицы |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | Hebron |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lleolwyd y mynachdy a'r eglwys sawl cilometr o Mamre, lle saif hen dderwen terebinth neu 'dderwen Abraham' (a ddisgrifiwyd gan Josephus), wedi'i amgylchynu gan waliau a godwyd gan Herod Fawr, a lle adeiladodd Cystennin I, ymerawdwr Rhufeinig basilica yn y 4g. Mae "Derw Abraham" sydd wedi'i leoli o fewn yr adeiladau Rwsiaidd a ddisgrifir yn yr erthygl hon yn ddyledus i draddodiad gymharol newydd, a ymddangosodd rywbryd rhwng canol y 12g a'r 19g.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Hebron's only church keeps the faith in turbulent city". Your Middle East (yn Saesneg). 2016-01-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-19. Cyrchwyd 2020-06-10.
- ↑ Nofal, Aziza (2019-01-04). "Hebron's only Orthodox church quiet on Christmas". Al-Monitor (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-10.
- ↑ Schmemann, Serge (1997-07-11). "Arafat Enters Into a New Fray, Over a Russian Church". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-06-10.
- ↑ "Mamre in Hebron". www.schou.de (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-10.
- ↑ "فيديو- العدل العليا تلغي قرار الرئيس بمنح المسكوبية للبعثة الروسية". وكـالـة مـعـا الاخـبـارية (yn Arabeg). Cyrchwyd 2020-06-10.
Dolenni allanol
golygu- Derw Mamre - Wici Uniongred .
- Троицкий монастырь и храм св. Праотцев в Хевроне - adroddiad yn LiveJournal .
- Fideo Pererindod Tir Sanctaidd o daith i'r eglwys