Mynydd Ararat
Mynydd Ararat (Twrceg: Ağrı Dağı) yw mynydd uchaf Twrci. Saif yn nhalaith Ağrı yng ngogledd-ddwyrain Twrci, rhyw 16 km o'r ffin ag Iran a 32 km o'r ffin ag Armenia.
Delwedd:NEO ararat big.jpg, Mount Ararat and the Araratian plain (cropped).jpg, 00 2399 Mount Ararat, Turkey.jpg | |
Math | mynydd, atyniad twristaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ağrı |
Gwlad | Twrci |
Uwch y môr | 5,165 metr |
Cyfesurynnau | 39.7°N 44.3°E |
Manylion | |
Amlygrwydd | 3,611 metr |
Rhiant gopa | Mynydd Damavand |
Cadwyn fynydd | Armenian Highlands |
Statws treftadaeth | Important Bird Area |
Manylion | |
Mae Ararat yn llosgfynydd, er nad yw wedi ffrwydro o fewn cof. Dr. Friedrich Parrot, gyda chymorth Khachatur Abovian, oedd y cyntaf i'w ddringo hyd y gwyddir, yn 1829. Gellir ei ddringo o'r de gyda chymorth bwyell eira a chramponau, ond mae'n rhaid cael caniatâd llywodraeth Twrci a defnyddio tywysydd lleol.
Mae Ararat yn enwog fel y lle y glaniodd Arch Noa yn y stori yn y Beibl, ac mae nifer o ymdrechion wedi eu gwneud i ddarganfod gweddillion yr arch ar y copa. Yn y 1950au llwyddodd De Navarre i ddarganfod darn o bren, ond dangosodd profion ei fod o ddyddiad diweddar.