Mynydd Coety
Bryn yn ne Cymru yw Mynydd Coety (Saesneg: Coity Mountain). Saif rhwng Blaenafon ac Abertyleri, ac mae'r ffin rhwng awdurdodau unedol Torfaen a Blaenau Gwent yn mynd dros y copa. Mynydd Coety yw'r copa uchaf yn y ddwy sir.
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertyleri, Blaenafon |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 578 metr |
Cyfesurynnau | 51.7645°N 3.1137°W |
Cod OS | SO2316107996 |
Amlygrwydd | 231 metr |
Cadwyn fynydd | Bannau Brycheiniog |
Mae'r rhan fwyaf o'r bryn yn rhan o ardal Tirlun Diwydiannol Blaenafon, sydd yn Safle Treftadaeth y Byd. Ar y copa mae cofeb i gi o'r enw Carlo, a saethwyd yn ddamweiniol gan ei feistr pan allan yn hela yn 1864.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 578 metr (1896 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golygu- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2012-02-29 yn y Peiriant Wayback