Mynydd Feswfiws

(Ailgyfeiriad o Mynydd Vesuvius)

Llosgfynydd yn yr Eidal yw Mynydd Feswfiws (Eidaleg: Monte Vesuvio, Lladin: Mons Vesuvius) neu Feswfiws.[1] Saif rhyw 9 km i'r dwyrain o ddinas Napoli. Ef yw'r unig losgfynydd ar dir mawr Ewrop i echdori yn ystod y can mlynedd diwethaf; mae'r ddau losgfynydd arall yn yr Eidal, Etna a Stromboli, ar ynysoedd.

Mynydd Feswfiws
Mathllosgfynydd byw, stratolosgfynydd, atyniad twristaidd, mynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Vesuvius Edit this on Wikidata
SirDinas Fetropolitan Napoli Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Uwch y môr1,281 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.8214°N 14.4256°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd1,232 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddQ3618573 Edit this on Wikidata
Map
Deunyddtephrite Edit this on Wikidata

Mae Feswfiws yn fwyaf adnabyddus am y ffrwydrad yn 79 OC, a ddinistriodd drefi Pompeii a Herculaneum. Ffrwydrodd lawer tro ers hynny; bu ffrwydrad yn fawr yn 1944.

Cyhoeddwyd yr ardal o amgylch y mynydd yn barc cenedlaethol ar 5 Mehefin 1995. Mae ffordd sy'n arwain o fewn 200 medr i'r copa, ond wedi hynny rhaid cerdded.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur yr Academi, s.v. "Vesuvius"
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato