Un o ddau gwmwd cantref Pebidiog yn ne-orllewin Cymru yn yr Oesoedd Canol oedd Mynyw. Fe'i enwir ar ôl Mynyw (Lladin: Menevia), sef Tyddewi.

Pen gorllewinol Mynyw: golygfa ar Ynys Dewi o Dyddewi

Gorweddai Mynyw ar ben y penrhyn sy'n ymestyn i'r môr ym mhen mwyaf gorllewinol Dyfed, rhwng Bae Ceredigion i'r gogledd a Bae Sain Ffraid i'r de. Ffiniai'r cwmwd â chantref Rhos i'r dwyrain a chwmwd Pen Caer, ei gymydog yng nghantref Peibidiog, i'r gogledd. Cwmwd a nodweddir gan dir creigiog a rhosdiroedd ydyw, gyda lleiniau bychain o dir amaethyddol. Ceir sawl ynys fechan ar hyd yr arfordir, e.e. Ynys Dewi, a nifer o faeau.

Ei ganolfan oedd Tyddewi (a elwid yn 'Mynyw' neu Menevia yn yr Oesoedd Canol), safle Eglwys Gadeiriol Tyddewi a chanolfan cwlt Dewi Sant. Tyrrai pererinion o bob cwrdd o'r wlad a'r tu hwnt i Dyddewi ar hyd llwybrau pererin. Roedd dylanwad gwleidyddol Tyddewi yn fawr yn ogystal, ac ymddengys mai esgobion Tyddewi oedd arglwyddi'r cwmwd - a chantref Pebidiog ei hun - yn y cyfnod cynnar.

Bu'r cwmwd yn rhan o deyrnas Dyfed ac wedyn Deheubarth. Syrthiodd i'r Normaniaid ar droad yr 11g.

Gweler hefyd golygu