Bryn Myrddin
Bryn yn Sir Gaerfyrddin yw Bryn Myrddin. Ceir bryngaer gynhanesyddol ar ei gopa. Fe'i lleolir ger y Felin-wen, rhwng Abergwili a Nantgaredig tua 2.5 milltir i'r dwyrain o dref Caerfyrddin, ac i'r gogledd o'r briffordd A40 yn Nyffryn Tywi; cyfeirnod OS: SN454215.
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8707°N 4.246°W |
Cod OS | SN45502150 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CM231 |
Bryngaer
golyguGorchuddir llawer o lethrau Bryn Myrddin gan goed. Ni ddarganfuwyd y gaer Geltaidd yno gan archaeolegwyr tan yn bur ddiweddar. Mae'n amgau 4 hectar o dir ac mae'n cael ei amddiffyn gan glawdd trwchus enfawr. Ceir mynedfa yng nghornel y gogledd-ddwyrain a amddiffynir gan droad i mewn tyn a gwaith amddiffynnol allanol sylweddol.[1]
Myrddin
golyguYmddengys fod y cysylltiad ag enw Myrddin, y bardd a dewin o'r cyfnod ôl-Rufeinig sydd â rhan amlwg yn chwedlau cylch Arthur, yn hen. Cyfeirir y bardd Seisnig Edmund Spenser (c.1522-1599) ato fel "Merlin's Hill" yn ei gerdd hir The Faerie Queene. Mae'n cofnodi traddodiad lleol fod gan Fyrddin efail danddaearol dan y bryn, a bod trwst y gofion wrth eu gwaith i'w clywed pe rhoddir clust ar y ddaear.[2]
Cadw
golyguCofrestrwyd bryngaer Bryn Myrddin gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CM231.[3] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru. Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[4] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[5] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber & Faber, 1978), tud. 169.
- ↑ Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gâr (Cyfres Crwydro Cymru, Llandybie, ail argraffiad 1970), tud. 268-69.
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2013-05-13.
- ↑ "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2013-05-13.