Nant a dyffryn coediog ar y ffin rhwng Wrecsam a Sir y Fflint yw Nant y Ffrith. Mae tarddiad y Ffrith ychydig i'r dwyrain o Landegla, ac mae'n llifo drwy Gronfa Ddŵr Nant y Ffrith, trwy hen erddi Plas Nant y Ffrith ac yn ymuno ag Afon Cegidog ym mhentref Ffrith.

Nant y Ffrith
Mathdyffryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0697°N 3.1311°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganHafren Dyfrdwy Edit this on Wikidata
Map

Plas Nant-y-Ffrith golygu

Adeiladwyd y neuadd yn lluest hela gan Thomas Fry, masnachwr te o Lerpwl ym 1850. Bu farw'n fuan ar ôl ei gwblhau. Prynwyd y tŷ ym 1865 gan James Kyrke, meistr haearn lleol.[1] Roedd y neuadd yn storfa ar gyfer cyflegrau yn ystod yr Ail Rhyfel Byd. Dymchwelyd y neuadd rhwng 1947 a 1950. Gwelir rhai o adfeilion y gerddi heddiw ac mae eu rhododendronau'n goroesi.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan Discover Flintshire" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-09-08. Cyrchwyd 2014-04-30.


Oriel golygu