Ned Thomas

ysgrifennwr, newyddiadurwr, beirniad llenyddol (1936- )

Beirniad a golygydd Cymreig yw Ned Thomas, sef Edward Morley Thomas (ganed 11 Mehefin 1936[1] yn Little Lever, Swydd Gaerhirfryn, Lloegr). Symudodd i Gymru yn 1968 a daeth yn lladmerydd adnabyddus dros yr iaith Gymraeg a hawliau Cymru fel gwlad.

Ned Thomas
Ganwyd11 Mehefin 1936 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, beirniad llenyddol, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bywyd a gwaith golygu

Roedd rhieni Ned Thomas yn Gymry Cymraeg. Ansefydlog bu ei lencyndod, a threuliodd amser mewn sawl rhan o Loegr, ar gyfandir Ewrop ac yng nghanolbarth Cymru. Ar ôl graddio yng Ngholeg Newydd, Rhydychen, gweithiodd i'r Times yn Llundain ac fel golygydd cylchgrawn Rwsieg y llysgenhadaeth Brydeinig ym Moscow. Bu hefyd yn ddarlithydd ym mhrifsgolion Moscow a Salamanca, Sbaen.

Cafodd swydd fel darlithydd llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1969. Sefydlodd a golygodd y cylchgrawn dylanwadol Planet. Erbyn heddiw mae'n gadeirydd Cwmni Dyddiol Cyf., y cwmni a sefydlwyd i gyhoeddi'r papur newydd Y Byd.[2]

Cafodd gwaith Ned Thomas ddylanwad sylweddol ar ymgyrch iaith y 1970au a'r mudiad dros gael senedd i Gymru. Gwnaeth lawer i hyrwyddo twf dylanwad yr adain chwith mewn cenedlaetholdeb Cymreig, yn enwedig mewn perthynas â gwaith Cymdeithas yr Iaith.

Ei gyfrol enwocaf, efallai, yw The Welsh Extremist (is-deitl: A Culture in Crisis), sy'n dadansoddi a disgrifio sefyllfa ieithyddol, gwleidyddol, a chymdeithasol Cymru mewn cyd-destun yr angen i warchod yr iaith a'r Fro Gymraeg a chael hunanlywodraeth i Gymru. Mae'r llyfr yn bwysig hefyd fel cyflwyniad o werthoedd Cymraeg a Chymreig i bobl di-Gymraeg, yng Nghymru a thros Glawdd Offa, a hynny ar adeg pan gollfernid cenedlaetholdeb Cymru a'r Alban yn hallt yn y wasg Seisnig/Prydeinig.

Cyrhaeddodd ei hunangofiant Bydoedd: Cofiant Cyfnod restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011.

Llyfryddiaeth golygu

  • George Orwell (1965). Astudiaeth.
  • The Welsh Extremist (Gollancz, Llundain, 1971) [3]
  • Poet of the Islands (1980)
  • Waldo Williams (1985). Astudiaeth, cyfres Llên y Llenor.
  • Bydoedd: Cofiant Cyfnod (Y Lolfa 2010)

Cyfeiriadau golygu

  1.  Manylion cyfarwyddwr Dyddiol Cyf, Tŷ'r Cwmniau. Adalwyd ar 5 Mawrth 2016.
  2. "Y Byd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-07. Cyrchwyd 2009-06-19.
  3. "The Welsh Extremist - testun llawn (PDF)" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-06-17. Cyrchwyd 2011-05-18.