Y bengaled
Centaurea nigra | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Asterales |
Teulu: | Asteraceae |
Genws: | Centaurea |
Rhywogaeth: | C. nigra |
Enw deuenwol | |
Centaurea nigra L. |
Planhigyn blodeuol o deulu llygad y dydd a blodyn haul ydy'r bengaled sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Asteraceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Centaurea nigra a'r enw Saesneg yw Common knapweed. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Pengaled, Cramennog, Madfelen, Pengaled Benddu, Pengaled Coch, Pengaled Du, Pengaled Leiaf Benddu.
Daw'r gair "Asteraceae", sef yr enw ar y teulu hwn, o'r gair 'Aster', y genws mwyaf lluosog o'r teulu - ac sy'n tarddu o'r gair Groeg ἀστήρ, sef 'seren'.
Mae'n blanhigyn lluosflwydd sy'n frodorol o Ewrop a chaiff ei ystyried gan lawer yn chwynyn. Gall dyfu i uchder o oddeutu metr.
Mae'r dail hyd at 25 cm o faint, ac fel arfer yn glustennog ac yn flewog. Mae cyffion gan y dail isaf, ond nid y dail uchaf.
Gweler hefyd
golygu- Geiriadur rhywogaethau Gwefan Llên Natur