Theatr y Palas, Abertawe

clwb nos rhestredig Gradd II yng Nghastell (cymuned)

Mae Theatr y Palas yn adeilad sydd wedi'i lleoli ar ochr ogleddol y Stryd Fawr, Abertawe, Cymru. Cafodd ei hadeiladu'n wreiddiol ym 1888 fel neuadd gerddoriaeth draddodiadol a'i henw gwreiddiol oedd 'Y Pafiliwn'. Fe'i hagorwyd ar Noswyl Nadolig y flwyddyn honno.[1] Comisiynwyd yr adeilad gan y Swansea Improvements and Tramway Company a oedd hefyd yn adeiladu a chynnal y tramiau rhwng dinas Abertawe a'r Mwmbwls. Y pensaer oedd Albert Bucknall a oedd hefyd wedi gweithio ar gastell Craig-y-nos a'r Patti Pavillion. Costiodd yr adeilad £10,00 i'w hadeiladu.[1] Ers iddi agor, mae'r theatr wedi cael ei defnyddio fel neuadd fingo a chlwb nos.

Theatr y Palas, Abertawe
Maththeatr, clwb nos, neuadd bingo, sinema Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1888 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1888 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCastell Edit this on Wikidata
SirAbertawe, Castell Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr22 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6275°N 3.9411°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'r adeilad rhestredig Gradd II yn un o ddwy neuadd gerddorol a adeiladwyd i'r pwrpas hwn ac sy'n dal i sefyll yng ngwledydd Prydain i gyd. Yn ystod blynyddoedd cynnar yr 20g, gwelwyd sêr fel Charlie Chaplin (credir iddo berfformio yno ym 1897[2] neu yn 1899 fel rhan o'r Eight Lancashire Lads[3] Lilly Langtry, Marie Lloyd a Dan Leno yn perfformio yno.

Theatr y Palas oedd y man cyntaf yng Nghymru i ddangos ffilmiau mud a phrin oedd y difrod i'r adeilad yn ystod y blitz ar Abertawe a ddinistriodd rannau helaeth o ganol dinas Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd. O ganlyniad i hyn, cadwyd cyrff y bobl a laddwyd yno dros dro ym mis Chwefror 1941.[3] Ym mis Tachwedd 1942, cyhoeddwyd y byddai'r theatr yn ail-agor o dan reolaeth Mr S M Lipman. Parhaodd y theatr i weithredu fel sinema tan 1949, pan fu tân yn ystod sioe ffilmiau. Gwnaed difrod difrifol i'r ardal cefn llwyfan a syrthiodd than o'r to uwchben y llwyfan. Gwnaed peth gwaith atgyweirio er mwyn gwneud yr adeilad yn ddiogel ond nid oedd modd ei ddefnyddio am gryn dipyn o amser.[3]

Gwnaeth Syr Anthony Hopkins ei berfformiad llwyfan proffesiynol cyntaf yno ym, 1960 yng nghynyrchiad y Swansea Little Theatre o 'Have a Cigarette'.[3][4]

Hefyd ar ddechrau'r 1960au perfformiodd Morecambe and Wise yno. Ken Dodd oedd y digrifwr olaf i berfformio yno cyn y newidiwyd y theatr yn glwb nos o'r enw "Jingles" yn ystod y 1970au. Ar y 9 Medi, 1983 gwnaeth y perfformiwr drag Cymreig Ceri Dupree ei berfformiad proffesiynol cyntaf yno.

Ym mis Tachwedd 2003, gwerthwyd y theatr am £340,000.00 ond cafodd ei roi ar y farchnad unwaith eto ym mis Gorffennaf 2007, gyda phris cychwynnol o £250,000. Cafodd ei brynu'n ddiweddarach gan gwmni wedi'i leoli yn Swydd Gaint [5]

Datblyiadau diweddar

golygu

Ar hyn o bryd nid yw'r theatr yn cael ei defnyddio ond mae yna grŵp ymgyrchu sydd eisiau adfywio ac ail-agor yr adeilad fel lleoliad theatrig. Fodd bynnag, nid yw gwefan y grŵp hwn wedi bod yn weithredol ers Ebrill 2008.

Erbyn 2014, ystyriwyd fod y theatr mewn sefyllfa ddifrifol wael ac mewn "perygl enbyd"[6][7]. Ym mis Ebrill 2014, cynigiodd Cyngor Dinas a Sir Abertawe £75,000 i berchnogion y theatr er mwyn iddynt wneud gwelliannau brys iddo[8]. Rhoddwyd yr arian er mwyn gwaredu'r planhigion sy'n tyfu allan o furiau'r theatr ac i'w wneud yn ddiddos. Hyd yn hyn, nid yw'r perchnogion wedi nodi beth yw eu bwriad.

Oriel luniau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Pavilion Repertory Theatre Archifwyd 2010-12-01 yn y Peiriant Wayback 16-01-2011
  2. Chaplin finds Welsh family roots 08-12-2004. Adalwyd ar 16-01-2011
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Swansea's Grand, Ian Parsons, Bryngold Books, 2010, td.67-84
  4. Oldest theatre under hammer. BBC News. Adalwyd 10-05-2009
  5. Palace Theatre, Swansea, may 'fall down' if left untouched BBC News. 3 Hydref 2013. Adalwyd ar 27 Awst 2014
  6. 'Extreme risk' Danbert House, Morriston, repairs order BBC News 17 Awst 2014 Adalwyd ar 27 Awst 2014
  7. Palace Theatre in Swansea set for £75,000 regeneration Ed Frankl. The Stage. 17 Ebrill 2014. Adalwyd 27 Awst 2014
  8. Future of the Palace Theatre still in doubt - despite £75k grant offer South Wales Evening Post 06-08-2014. Adalwyd ar 27-08-2014

Dolenni allanol

golygu