Nia Ceidiog

actores

Cyflwynydd a chynhyrchydd teledu yw Nia Ceidiog (ganwyd Mawrth 1954). Mae'n nodedig am fod yn un o gyflwynwyr cyntaf S4C ac ysgrifennu cyfresi cyntaf Sam Tân.

Bywyd cynnar a addysg

golygu

Fe'i magwyd yn Wrecsam ac aeth i Ysgol Morgan Llwyd. Yn blentyn roedd eisiau bod yn athrawes Ffrangeg ac aeth i astudio Ffrangeg a Chymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Graddiodd yn 1976 ond yn hytrach na mynd ymlaen i hyfforddi fel athrawes dilynodd gwrs drama a threuliodd flwyddyn ar ôl hynny fel actores gyda Cwmni Theatr Cymru.[1]

Cychwynnodd ei gyrfa fel cyflwynydd rhaglenni plant gyda HTV Cymru yn niwedd y 1970au. Ei ymddangosiad cyntaf oedd ar raglen Seren Wib yn dangos sut i wneud cyri ŵy. Daeth yn gyflwynydd cyswllt ar gyfer S4C yn yr 1980au pan oedd cyflwynwyr rhwng rhaglenni yn ymddangos ar y sgrîn. Yn ystod y cyfnod yma dechreuodd ysgrifennu straeon i blant, a'i darlunio, er mwyn eu defnyddio i lenwi bylchau rhwng rhaglenni. Aeth ymlaen i ysgrifennu y gyfres animeddiedig i blant, Sam Tân.

Aeth ymlaen i weithio fel cyflwynydd a cynhyrchydd teledu. Sefydlodd ei chwmni cynhyrchu Ceidiog yn 1996 gyda'i brawd Geraint Ceidiog Hughes ac maent wedi cynhyrchu nifer o raglenni ffeithiol a phlant, yn cynnwys Y Diwrnod Mawr, Gorsaf Hud, Meees a TiPiNi [2]

Bywyd personol

golygu

Mae'n byw yng Nghaerdydd ac mae ganddi ddau fab. Teithiodd i India i ddysgu yoga ac mae bellach yn dysgu yoga i bobl eraill. Yn 63 oed cystadlodd mewn cystadleuaeth codi pwysau.[3]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Diwrnod Mawr yn y Baftas i bennaeth teledu. Ceidiog (19 Ionawr 2011). Adalwyd ar 19 Hydref 2017.
  2.  Ceidiog - Amdanom Ni. Adalwyd ar 19 Hydref 2017.
  3. Mam Sam Tân yn codi pwysau , BBC Cymru Fyw, 18 Hydref 2017. Cyrchwyd ar 19 Hydref 2017.