Nia Roberts (cyflwynydd)
Bywyd cynnar
golyguMagwyd Nia Roberts yn nhref Benllech ar Ynys Môn yn ferch i'r athro ac actor J. O. Roberts. Ei brawd yw'r cyflwynydd teledu Gareth Roberts.[1]
Gyrfa
golyguMae'n un o wynebau mwya cyfarwydd S4C ac mae wedi cyflwyno nifer o raglenni'r sianel yn cynnwys ei sioe sgwrsio ei hun. Cyflwynodd y sioe adloniant a chystadleuol Côr Cymru a bu'n brif gyflwynydd ar raglenni yn cyflwyno arlwy'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd. Roedd yn un o gyflwynwr y rhaglen gelf a diwylliant Pethe.[2] Ers 2015 mae'n cyflwyno'r rhaglen gwis 'Celwydd Noeth'.[3]
Arferai gyflwyno rhaglen gylchgrawn yn y bore ar BBC Radio Cymru[4] cyn symud i'r prynhawn yn 2012, ond daeth y rhaglen i ben yn Rhagfyr 2013.[5] Ers hynny mae wedi bod yn cyflwyno'r rhaglen gelfyddydol wythnosol Stiwdio.[6]
Bywyd personol
golyguMae'n byw yn Y Bont-faen gyda'i gŵr Geraint ac mae ganddynt ddwy ferch, Nel a Ceisa.[1] Pan oedd yn briod gyda'r cerddor Huw Chiswell ei henw oedd Nia Chiswell.[7] Derbyniodd Gymrodoriaeth er anrhydedd am ei chyfraniad i faes darlledu gan Brifysgol Bangor ar 13 Gorffennaf 2016.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Nia focuses on family in Radio Cymru programme". northwales. Cyrchwyd 2016-01-13.
- ↑ "Pethe - Cyflwynwyr". S4C. Cyrchwyd 13 Ionawr 2016.[dolen farw]
- ↑ Celwydd Noeth - Cwmni Da[dolen farw]; Adalwyd 13 Ionawr 2016
- ↑ Nia Roberts - Radio Cymru, BBC
- ↑ (Welsh) Tad cyflwynwraig Radio Cymru yn cwyno am y BBC, Golwg360
- ↑ Stiwdio gyda Nia Roberts - Radio Cymru, BBC
- ↑ "Nia Roberts - UKGameshows". www.ukgameshows.com. Cyrchwyd 2016-01-13.