Nick Bennett
Nick Bennett (ganwyd 29 Ebrill 1969) yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ers 2014.[1]
Bywyd cynnar ac addysg
golyguMagwyd Nicholas Bennett yn Llangefni, Ynys Môn ac aeth i Ysgol Gyfun Llangefni. Aeth ymlaen i Brifysgol Aberystwyth yn 1987 lle astudiodd am radd BSc Econ mewn Gwyddor Wleidyddol ac yna MBA yn 1991.
Gyrfa
golyguYn 1995 aeth i weithio yng Nghanolfan Ewropeaidd Cymru ym Mrwsel gan adael yn 1999. Rhwng 2000 a 2002 bu'n gynghorydd arbennig i'r Dirprwy Brif Weinidog yn Llywodraeth Cymru pan oedd clymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Gweithiodd i Bute Communications rhwng 2004 a 2006. Roedd yn brif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru rhwng 2006 a 2014, cyn cael ei benodi fel Ombwdmsan Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Mehefin 2014. [2]
Sefodd fel ymgeisydd i blaid y Democratiaid Rhyddfrydol dros yr ynys mewn etholiad San Steffan yn 2001.
Bywyd personol
golyguMae'n briod gyda thri o blant.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Amdanon ni : Ombwdsman. Adalwyd ar 7 Hydref 2017.
- ↑ Proffil Linkedin. Adalwyd ar 7 Hydref 2017.
- ↑ Nick Bennett - Group chief executive of Community Housing Cymru. Adalwyd ar 7 Hydref 2017.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Archifwyd 2017-12-10 yn y Peiriant Wayback