Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen
Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen (byr: SUB Göttingen) yw llyfrgell Prifysgol Göttingen (Göttingen Georg-August-Universität) yn Göttingen, yr Almaen yn ogystal â bod yn llyfrgell ganol y rhanbarth Niedersachsen (Lower Saxony). Rhan o'r llyfrgell yw'r adran ddigideiddio Göttinger Digitalisierungszentrum yn ogystal â'r wefan wyddonol vascoda. Mae'n un o lyfrgelloedd ymchwil pwysica'r byd. Rhwng muriau'r llyfrgell hon y cedwir Beibl Gutenberg, un o bedwar yn unig drwy'r byd.
Math | llyfrgell academaidd, cyhoeddwr, state library of Germany |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prifysgol Georg August Göttingen |
Lleoliad | Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen |
Sir | Göttingen |
Gwlad | Yr Almaen |
Cyfesurynnau | 51.5397°N 9.9364°E |
Cod post | 37073 |
Mae'n un o lyfrgelloedd mwya'r Almaen hefyd, gyda 4½ miliwn o gyfrolau, 13,000 holograff a 350 Nachlässe (iaid llenyddol sy'n delio gyda materion hawlfraint ac eiddo deallusol). Mae'r llyfrgell yn casglu deunydd print, ffotograffau, mapiau, lluniau, llawysgrifau, CD-ROMau ac archifau. Hefyd eitemau ym mhob iaith a fformat; llyfrau, newyddiaduron, papurau newydd, cylchgronau, recordiau sain a cherddoriaeth, breinleni, basau data, mapiau,argraffiadau a darluniau. Catalogir popeth yn electronig, a dim ond arlein y caniateir mynediad i rai o'r casgliadau.
Hanes
golyguYstyrir y llyfrgell fel y llyfrgell academaidd gyntaf ac fe'i codwyd yn 1734, teirblwydd cyn codi'r brifysgol. Y Cyfaryddwr cyntaf oedd Johann Matthias Gesner, ac ymhlith ei Phrif Lyfrgellwyr enwog y mae'r brodyr Jacob a Wilhelm Grimm, (sef y Brodyr Grimm) 1830-1837.
Ers y 1920au, derbyniodd y llyfrgell, gasgliadau arbennig niferus, yn enwedig y casgliad Eingl-Americanaidd a'r gwyddorau naturiol.
Yn 2002 enillodd y SUB wobr "Llyfrgell Almaenig y Flwyddyn" sef y (Bibliothek des Jahres).
Heddiw
golyguCeir stoc o tua 4.5 miliwn o gyfrolau heddiw. Mae'r llyfrgell ar agor saith diwrnod yr wythnos ac mae mynediad i'r holl arddangosfeydd am ddim. Gellir gweld nifer o gasgliadau diddorol y llyfrgell ar eu gwefan. Cyhoeddwyd llawer o ddeunyddiau ar y we ac mae SUB yn gwneud llawer o ymchwil mewn Dyniaethau Digidol.
Adranau y Llyfrgell
golygu- Llyfrgell Cemeg (BBN)
- Llyfrgell Coedwigaeth Rhanbarthol (BBF)
- Llyfrgell Ardal Meddygol ("BBM")
- Llyfrgell yr adran Ffiseg (BBP)
- Llyfrgell y Gwyddorau Economaidd a Chymdeithasol (BBWISO, yn yr Oeconomicum)
Casgliadau yn yr adeilad hanesyddol
golygu- Adran Llawysgrifau a Llyfrau Prin
- Adran Llawysgrifau a Llyfrau Prin
- Casgliad o Argraffwyd Almaeneg 1701-1800
- Gweithdy Adfer
- Rhwymo Llyfrau
- Ystafell Ddarllen Heyne
- Casgliad Mapiau
- Llyfrgell Asia-Affrica
Catalogau a Gwasanaethau Canolog
golyguMae SUB hefyd lyfrgell yr Akademie der Wissenschaften (Academi y Gwyddorau yn Göttingen). Mae'n cynnal y Niedersächsischen Zentralkatalog (catalog canolog Sacsoni Isaf) a Göttinger Digitalisierungszentrum (Canolfan Göttingen Digido). Mae SUB yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ar-lein, fel y Llyfrgell Rithwir o Eingl-Americanaidd gofod diwylliannol, ac mae'n datblygu cynigion newydd trwy'r amser.
Prif lyfrgellwyr
golygu- Johann Matthias Gesner (1734 - 1761)
- Johann David Michaelis (1761 - 1763)
- Christian Gottlob Heyne (1763 - 1812)
- Jeremias David Reuss (1812 - 1837)
- Georg Friedrich Benecke (1838 - 1844)
- Karl Friedrich Christian Hoeck (1845 - 1875)
- August Wilmanns (1875 - 1886)
- Karl Dziatzko (1886 - 1903)
- Richard Pietschmann (1903 - 1920)
- Richard Fick (1921 - 1932)
- Josef Becker (1933-1935)
- Karl Julius Hartmann (1935 - 1958)
- Wilhelm Martin Luther (1958 - 1962)
- Wilhelm Grunwald (1963 - 1974)
- Hans Helmut Vogt (1974 - 1990)
- Elmar Mittler (1990 - 2006)
- Norbert Lossau (2006 -)
Llenyddiaeth
golygu- Margo Bargheer, Klaus Ceynowa (Hrsg.): Tradition und Zukunft - die Niedersächsische Staats und Universitätsbibliothek Göttingen. Eine Leistungsbilanz zum 65. Geburtstag von Elmar Mittler. Universitätsverlag, Göttingen 2005, ISBN 3-938616-03-2 (Volltext, PDF)
- Bernhard Fabian (Hrsg.): Handbuch der historischen Buchbestände in Deutschland. Bd. 2, 1. Olms-Weidmann, Hildesheim 1998, ISBN 3-487-09575-0, S. 140–266
- Elmar Mittler: Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen. In: Bernd Hagenau (Hrsg.): Regionalbibliotheken in Deutschland. Klostermann, Frankfurt am Main 2000. S. 187 - 195, ISBN 3-465-03085-0
Dolenni allanol
golygu- Gwefan y llyfrgell yn Saesneg
- SUB Göttingen
- Universitätsverlag Göttingen
- Universitätsarchiv Göttingen
- Projekt DigiWunschbuch
- Bibliotheksgeschichte
- Trysorau Göttingen
- http://webdoc.sub.gwdg.de/ebook/ga/2003/papier/start.htm (OPAL - portal ar-lein)
- vifanord Llyfrgell Gogledd Ewrop ac Astudiaethau Baltig ar-lein
- Vascoda Archifwyd 2010-09-19 yn y Peiriant Wayback
- historyguide.de
- Lluniau Paulinerkirche[dolen farw]
- Panorama[dolen farw]
Caslgiad Celtaidd, gweler Wales related Fiction of the Romantic Period, gweler http://www.nationallizenzen.de/angebote/nlproduct.2006-03-14.4579123427 Arddangosfa Panorama Wales, gweler http://www.sub.uni-goettingen.de/archiv/ausstell/2008/wales.html Am Gymru (OPAC): http://opac.sub.uni-goettingen.de/DB=1/LNG=DU/CMD?ACT=SRCHA&IKT=1016&SRT=YOP&TRM=Cymru Gweler yma: [1] (Metadata) Archifwyd 2009-08-22 yn y Peiriant Wayback. Sacsoni Isaf ar-lein: http://www.opal-niedersachsen.de/ Archifwyd 2010-10-24 yn y Peiriant Wayback CACAO, PARSE.Insight, TextGrid, WisNetGrid, WissGrid (http://www.wisnetgrid.org/ Archifwyd 2010-08-27 yn y Peiriant Wayback) http://www.europeanatravel.eu/ http://www.dariah.eu/ Blumenbach ar-lein: http://www.blumenbach-online.de/projekt/?L=1 Archifwyd 2016-04-17 yn y Peiriant Wayback Llyfrgelloedd rhithwir // Rhestr Cronfeydd Data: http://www.sub.uni-goettingen.de/vlib/lit/nl_mehr.php