Noel James

Digrifwr o Gymro

Astudiodd am radd Ffiseg ym Manceinion. Bu'n athro cyn dod yn ddigrifwr llawn amser.[1]

Noel James
GanwydRhagfyr 1965 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdigrifwr stand-yp Edit this on Wikidata
yn chwarae Clwb Rygbi Crymych, hydref 2024
Digrifwr o Gymro yw Noel Wyn James (ganwyd Rhagfyr 1965). Fe'i magwyd ym Mhontardawe. Mae'n perfformio yn Gymraeg a Saesneg mewn arddull stand-yp swreal. Un o'i nodweddion arbennig yw ei dalcen  non-slip, sydd yn cynnwys gymaint o rychau ar ei blaen - gwelir y ffoto - fel ei defnyddid i ddal cryno ddisgiau pan nad yw yn dal top pen Noel i fyny.

Mae wedi perfformio comedi ar draws gwledydd Prydain yn rhai o'r clybiau a gŵyliau mwyaf, gan gynnwys Reading, a Gwyl Caeredin. [2]

Ysgrifennodd a pherformiodd yn y sioe sgets Giamocs ar S4C yn 1995. Enwebwyd y sioe ar gyfer gwobr Rose of Montreaux y flwyddyn honno. Ymddangosodd hefyd ar y gyfres gomedi stand-yp Gwerthu Allan yn 2014. Perfformiodd ar y rhaglen gomedi Pedwar yn 2015.[3]

Britain's Got Talent

golygu

Yn 2018, enillodd le ar sioe Britain's Got Talent ar ITV gan ennill clod y beirniaid. Yn y rownd gynderfynol ar nos Iau, 31 Mai 2018, cyrhaeddodd y tri uchaf yn y bleidlais gyhoeddus. Roedd rhaid i'r beirniaid benderfynu rhwng cynnig lle yn y rownd derfynol iddo fe neu i Tim and Jack Goodacre, deuawd canu tad a mab. Pleidleisiodd y digrifwr David Walliams o'i blaid ond pleidleisiodd y lleill am yr act arall.[4]

Bywyd personol

golygu

Bu farw ei fam pan oedd yn 20 oed a bu farw ei dad yn 2013.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Surreal stand-up Noel James on the heartache behind the laughter (en) , WalesOnline, 11 Mawrth 2013. Cyrchwyd ar 1 Mehefin 2018.
  2. (Saesneg) Glee Club - Noel James. Adalwyd ar 1 Mehefin 2018.
  3. Pedwar
  4. So close! Noel James misses place in Britain's Got Talent final (en) , chortle.co.uk, 31 Mai 2018. Cyrchwyd ar 1 Mehefin 2018.

Dolenni allanol

golygu