Oblast Kursk
Un o oblastau Rwsia yw Oblast Kursk (Rwseg: Ку́рская о́бласть, Kurskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Kursk. Poblogaeth: 1,096,448 (1 Ionawr 2021).
Math | oblast |
---|---|
Prifddinas | Kursk |
Poblogaeth | 1,096,448 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Alexey Smirnov |
Cylchfa amser | Amser Moscfa, Ewrop/Moscfa |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Canol |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 29,800 km² |
Yn ffinio gyda | Oblast Bryansk, Oblast Oryol, Oblast Lipetsk, Oblast Voronezh, Oblast Belgorod, Sumy Oblast |
Cyfesurynnau | 51.75°N 36.02°E |
RU-KRS | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Kursk Oblast Duma |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Kursk Oblast |
Pennaeth y Llywodraeth | Alexey Smirnov |
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Canol. Fe'i sefydlwyd yn 1934 yn yr Undeb Sofietaidd.
Mae Oblast Kursk yn rhannu ffin gyda Oblast Bryansk i'r gogledd-orllewin, Oblast Oryol i'r gogledd, Oblast Lipetsk i'r gogledd-ddwyrain, Oblast Voronezh i'r dwyrain, ac Oblast Belgorod i'r de a'r ffin rhwng Rwsia a'r Wcrain. Llifa Afon Dnieper ac Afon Don drwy'r oblast.
Ar 8 Awst 2024, wedi dros ddwy flynedd o ymladd ar Wcráin, torrodd byddin Wcráin i diroedd Rwsia mewn ymosodiad cwbwl annisgwyl.
Hanes
golyguMae tiriogaeth Oblast Kursk wedi'i phoblogi ers diwedd yr oes iâ ddiwethaf. Roedd llwythau Slafaidd o'r Severiaid yn byw yn yr ardal. O 830 ymlaen roedd yr ardal bresennol yn rhan o daleithiau Rus' Khaganate a Kievan Rus. Y trefi hynaf yn y rhanbarth yw Kursk a Rylsk, a grybwyllwyd gyntaf yn 1032 a 1152, yn y drefn honno: dwy brifddinas dugiaethau canoloesol bychan.[1][2] respectively, both capitals of small medieval eponymous duchies.[1] Yn y 13g, gorchfygwyd y rhanbarth gan Ymerodraeth y Mongol.
Yn niriogaeth Kursk Oblast y ganwyd 4ydd arweinydd yr Undeb Sofietaidd, Nikita Khrushchev.
O 2024 ymlaen, piblinell Urengoy-Pomary-Uzhhorod yn Sudzha oedd y lle olaf i nwy naturiol lifo trwyddo o Rwsia i Ewrop trwy'r Wcráin.[3]
Ym 1918, roedd dinasoedd Rylsk a Sudzha yn rhan orllewinol yr Oblast Kursk bresennol yn rhan o dalaith Wcrain.[1] Llofnodwyd cadoediad rhwng Gwladwriaeth Wcrain, yr Almaen a Rwsia Sofietaidd yn Korenevo ym Mai 1918. Kursk oedd man sefydlu Llywodraeth Dros Dro'r Gweithwyr a Gwerinwyr Wcráin, a Sudzha oedd ei sedd gyntaf yn Nhachwedd-Rhagfyr 1918.[4] Arhosodd Sudzha yn rhan o'r Wcráin Sofietaidd (Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin) tan 1922.[5]
Yr Ail Ryfel Byd
golyguYmladdwyd un o frwydrau mawr yr Ail Ryfel Byd ar dir yr oblast, sef Brwydr Kursk (5 Gorffennaf i 23 Awst, 1943). Dyma safle bwrydrau Wcrain a'r Almaen yn erbyn Rwsia.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd tiriogaeth Oblast Kursk gan filwyr yr Almaen o hydref 1941 hyd haf 1943. Digwyddodd Brwydr Kursk, a oedd yn un o frwydrau mwyaf yr Ail Ryfel Byd, yn y rhanbarth hon rhwng 5 Gorffennaf 1943 a 23 Awst 1943.
Rhyfel Rwsia ac Wcráin
golyguAr 8 Awst 2024, wedi dros ddwy flynedd o ymladd ar Wcráin, torrodd byddin Wcráin i diroedd Rwsia mewn ymosodiad cwbwl annisgwyl. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, meddiannwyd tiriogaeth Oblast Kursk gan filwyr yr Almaen o hydref 1941 hyd haf 1943. Digwyddodd Brwydr Kursk, a oedd yn un o frwydrau mwyaf yr Ail Ryfel Byd, yn y rhanbarth hon rhwng 5 Gorffennaf 1943 a 23 Awst 1943.
Gweler hefyd
golygu- Anomali Magnetig Kursk, yr anomali magnetig mwyaf ar y Ddaear.
Dolenni allanol
golygu- (Rwseg) Gwefan swyddogol yr oblast Archifwyd 2014-07-25 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Сім цікавих фактів про Курськ і Курщину" (yn Wcreineg). Cyrchwyd 19 Awst 2024.
- ↑ Słownik geograficzny Królestwa Polskiego i innych krajów słowiańskich, Tom X (yn Pwyleg). Warszawa. 1889. t. 94.
- ↑ "Is it the end for Russian gas supplies to Europe via Ukraine?". Reuters. 12 Awst 2024.
- ↑ "Міфи та факти про «першу столицю України»" (yn Wcreineg). 28 March 2014. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
- ↑ "Який вигляд зараз має місто Суджа, яке контролюють українські військові? Ексклюзив hromadske" (yn Wcreineg). Cyrchwyd 14 Awst 2024.