Ocsid nitraidd

(Ailgyfeiriad o Ocsid Nitrus)

Mae ocsid nitraidd sy’n cael ei alw’n aml yn nwy chwerthin, yn gyfansoddyn cemegol, yn ocsid nitrogen.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw N₂O. Ar dymheredd yr ystafell, mae'n nwy di-fflamadwy di-liw, gydag arogl a blas metelig. Ar dymheredd uchel, mae ocsid nitraidd yn ocsidydd pwerus sy'n debyg i ocsigen moleciwlaidd.

Ocsid nitraidd
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathnitrogen oxide Edit this on Wikidata
Màs44.001 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolN₂o edit this on wikidata
Enw WHONitrous oxide edit this on wikidata
Clefydau i'w trinTrafferth anadlu, cnawdnychiad, camddefnyddio sylweddau edit this on wikidata
Rhan onitrous-oxide reductase activity, nitric oxide reductase activity Edit this on Wikidata
Yn cynnwysocsigen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gan ocsid nitraidd ddefnyddiau meddygol sylweddol, yn enwedig mewn llawfeddygaeth a deintyddiaeth[2], am ei effeithiau anaesthetig a lleihau poen. Mae ei enw nwy chwerthin, a bathwyd gan Humphry Davy, yn seiliedig ar yr effeithiau perlesmeiriol ceir wrth ei anadlu, eiddo sydd wedi arwain at ei ddefnydd hamddenol fel anesthetig datgysylltiol[3].

Defnydd meddygol golygu

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • trafferth anadlu
  • cnawdnychiad
  • cam-drin sylweddau
  • Enwau golygu

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw ocsid nitraidd, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;

  • NOS
  • R-744A
  • NNO
  • nitrous
  • nitrogen protoxide
  • nitro
  • Nitrious oxide
  • hyponitrous acid anhydride
  • nwy chwerthin
  • aer dyfeisiedig
  • Gwthiant aerosol golygu

    Mae'r nwy yn cael ei gymeradwyo i'w ddefnyddio fel ychwanegyn bwyd (E942)[4], yn benodol fel gwthiant chwistrellu aerosol. Ei ddefnydd mwyaf cyffredin yn y cyd-destun hwn yw mewn caniau hufen a chwistrelliad aerosol a chwistrellau coginio. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio fel nwy anadweithiol i ddisodli ocsigen er mwyn atal twf bacteriol wrth lenwi pecynnau creision tatws, bwydydd byrbryd tebyg a llysiau wedi eu rhagbaratoi.

    Tanwydd golygu

    Mae ocsid nitraidd yn cael ei ddefnyddio fel ocsidydd mewn tanwydd roced ac mewn ceir rasio modur i gynyddu allbwn pŵer eu peiriannau.

    Effaith diwylliannol golygu

    Mae ocsid nitraidd yn digwydd ar lefelau bychan yn yr atmosffer. Mae'n garthysydd raddfa fawr ar osôn stratosfferig, gydag effaith sy'n debyg i effaith CFCs. Amcangyfrifir bod 30% o'r ocsid nitraidd yn yr atmosffer yn ganlyniad gweithgarwch dynol, yn bennaf trwy amaethyddiaeth[5][6].

    Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.

    Cyfeiriadau golygu

    1. Pubchem. "Ocsid Nitrus". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
    2. Dental fear central Inhalation Sedation (Laughing Gas) adalwyd 9 Mawrth 2018
    3. BBC newyddion How dangerous is laughing gas? adalwyd 9 Mawrth 2018
    4. Food Info - E942 adalwyd 9 Mawrth 2018
    5. Ravishankara, A. R.; Daniel, J. S.; Portmann, R. W. (2009). "Nitrous Oxide (N2O): The Dominant Ozone-Depleting Substance Emitted in the 21st Century". Science 326 (5949): 123–5. Bibcode 2009Sci...326..123R. doi:10.1126/science.1176985. PMID 19713491.
    6. Grossman, Lisa (28 August 2009). "Laughing gas is biggest threat to ozone layer". NewScientist.


    Cyngor meddygol

    Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

    Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!