Camddefnyddio sylweddau

Camddefnyddio sylweddau, a elwir hefyd yn gam-drin cyffuriau, yw'r defnydd o gyffur neu'r dulliau o gymryd y cyffur, sy'n niweidiol i'r unigolyn neu eraill. Mae'n fath o anhwylder sy'n gysylltiedig â sylweddau. Defnyddir diffiniadau gwahanol o gamddefnyddio cyffuriau yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd, meddygol a chyfiawnder troseddol. Mewn rhai achosion, mae ymddygiad troseddol neu wrthgymdeithasol yn digwydd pan fydd y person dan ddylanwad cyffur, a gall newidiad mewn personoliaeth hirdymor ddigwydd mewn unigolion hefyd.[1] Yn ogystal â niwed corfforol, cymdeithasol a seicolegol posibl, gall defnyddio rhai cyffuriau hefyd arwain at gosbau troseddol, er bod y rhain yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar yr awdurdod lleol.[2]

Camddefnyddio sylweddau
Tun i gadw teclynau'n ymwneud â chyffuriau
Enghraifft o'r canlynolgweithgaredd dynol, dosbarth o glefyd, trosedd Edit this on Wikidata
Mathproblem gymdeithasol, y defnydd o gyffuriau, clefyd Edit this on Wikidata
AchosAnhwylder defnydd sylwedd edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymhlith y cyffuriau a gysylltir amlaf â'r term hwn mae: alcohol, amffetaminau, barbitwradau, benzodiazepines, canabis, cocên, rhithbeiriau, methaqualone, ac opioidau. Nid yw pam fod pobl yn troi at gam-drin sylweddau, ond mae dwy brif ddamcaniaeth: naill ai rhagdueddiad genetig neu arfer a ddysgwyd gan eraill, sydd, os bydd dibyniaeth yn datblygu, yn amlygu ei hun fel clefyd gwanychol cronig.[3]

Yn 2010 roedd tua 5% o bobl (230 miliwn) ledled y byd yn defnyddio sylwedd anghyfreithlon.[4] O'r rhain, roedd 27 miliwn yn defnyddio cyffuriau risg uchel—a elwir fel arall yn ddefnydd rheolaidd o gyffuriau—sy'n achosi niwed i'w hiechyd, yn achosi problemau seicolegol, a/neu'n achosi problemau cymdeithasol sy'n eu rhoi mewn perygl enbyd.[4][5] Yn 2015, arweiniodd anhwylderau defnyddio sylweddau at 307,400 o farwolaethau, i fyny o 165,000 o farwolaethau yn 1990.[6][7] O'r rhain, mae'r niferoedd uchaf yn deillio o alcohol (137,500 o farwolaethau), anhwylderau defnyddio opioid (122,100), anhwylderau defnyddio amffetamin (12,200) ac anhwylderau defnyddio cocên ar 11,100.[6]

Dosbarthiad golygu

 
Person yn defnyddio anadlydd

Diffiniadau iechyd y cyhoedd golygu

Ceisiodd ymarferwyr iechyd y cyhoedd edrych ar ddefnyddio sylweddau o safbwynt ehangach na’r unigolyn, gan bwysleisio rôl cymdeithas, diwylliant ac argaeledd. Mae rhai gweithwyr iechyd proffesiynol yn dewis osgoi'r termau "cam-drin" alcohol neu gyffuriau o blaid iaith mwy gwrthrychol, megis "problemau math o sylwedd ac alcohol" neu "ddefnydd niweidiol/problemus" o gyffuriau. Mae Cyngor Swyddogion Iechyd British Columbia — yn eu papur trafod polisi yn 2005, Dull Iechyd Cyhoeddus o Reoli Cyffuriau yng Nghanada — wedi mabwysiadu model iechyd cyhoeddus o ddefnyddio sylweddau seicoweithredol sy’n herio defnyddio geiriau fel 'defnyddio' neu 'camddefnyddio'.[8] Mae'r model hwn yn cydnabod sbectrwm y defnydd, yn amrywio o ddefnydd buddiol i ddibyniaeth gronig.

Diffiniadau meddygol golygu

 
Mae astudiaeth yn 2010 yn rhestru amrywiol gyffuriau anghyfreithlon a chyfreithlon yn seiliedig ar ddatganiadau gan arbenigwyr niwed cyffuriau. Canfuwyd mai alcohol oedd y cyffur mwyaf peryglus yn gyffredinol. [9]

Nid yw ‘cam-drin cyffuriau’ bellach yn ddiagnosis meddygol cyfredol o fewn yr un canllaw ee Llawlyfr Diagnostig ac Ystadegol o Anhwylderau Meddwl (DSM) Cymdeithas Seiciatrig America, na Dosbarthiad Rhyngwladol o Anhwylderau Meddyliol Sefydliad Iechyd y Byd. Clefydau (ICD).

Mae Philip Jenkins yn awgrymu bod dau broblem gyda'n defnydd o'r term "cam-drin cyffuriau". Yn gyntaf, mae'r hyn sy'n gyfystyr â "cyffur" yn ddadleuol. Er enghraifft, mae GHB, sylwedd sy'n digwydd yn naturiol yn y system nerfol ganolog yn cael ei ystyried yn gyffur, ac mae'n anghyfreithlon mewn llawer o wledydd, tra nad yw nicotin yn cael ei ystyried yn swyddogol yn gyffur yn y mwyafrif o wledydd.

Yn ail, mae'r gair "cam-drin" yn awgrymu safon defnydd cydnabyddedig ar gyfer unrhyw sylwedd. Mae yfed gwydraid o win yn achlysurol yn cael ei ystyried yn dderbyniol yn y rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin, tra bod yfed sawl potel yn cael ei ystyried yn gamddefnydd. Byddai eiriolwyr dirwestol llym yn gweld yfed hyd yn oed un diferyn yn gamdriniaeth. Mae rhai grwpiau (ee Mormoniaid, fel y rhagnodir yn y Gair Doethineb) yn condemnio unrhyw ddefnydd o caffein. Yn yr un modd, mae mabwysiadu'r farn bod unrhyw ddefnydd (adloniadol) o ganabis neu amffetaminau amnewidiol yn gyfystyr â chamddefnyddio cyffuriau yn awgrymu bod penderfyniad wedi'i wneud bod y maint lleia rioed hyd yn oed yn niweidiol.[10] Yn yr Unol Daleithiau, mae cyffuriau wedi'u dosbarthu'n gyfreithiol i bum categori, atodlen I, II, III, IV, a V yn y Ddeddf Sylweddau Rheoledig . Dosberthir y cyffuriau yn ôl eu potensial tybiedig ar gyfer cam-drin. Mae cydberthynas gref rhwng defnyddio cyffuriau gwahanol.[11] Er enghraifft, mae cydberthynas rhwng cymeryd saith cyffur anghyfreithlon (amffetaminau, canabis, cocên, ecstasi, cyffuriau penfeddwol cyfreithlon, LSD, a madarch hud) ac mae cyfernod cydberthynas Pearson r >0.4 ym mhob pâr ohonynt; mae cysylltiad cryf rhwngcymeryd canabis (r >0.5) a defnyddio nicotin (baco), mae gan heroin gydberthynas â chocên (r > 0.4) a methadon (r >0.45), ac mae cydberthynas gref rhyngddo a chrac (r >0.5).[11]

Drug misuse golygu

Mae'r term drug misuse (camddefnyddio cyffuriau) yn derm a ddefnyddir yn gyffredin pan ddefnyddir meddyginiaeth bresgripsiwn ee tawelyddion, ancsiolyddion, poenliniaryddion, neu symbylyddion a gant eu defnyddio i godi hwyliau'r person gan anwybyddu'r ffaith y gall gorddos o feddyginiaethau o'r fath weithiau gael effeithiau andwyol difrifol. Weithiau mae'n golygu dargyfeirio cyffuriau oddi wrth yr unigolyn y'i rhagnodwyd ar ei gyfer.

Epidemioleg golygu

 
Blwyddyn bywyd wedi'i haddasu gan anabledd ar gyfer anhwylderau defnyddio cyffuriau fesul 100,000 o drigolion yn 2004.
     no data      <40      40–80      80–120      120–160      160–200      200–240      240–280      280–320      320–360      360–400      400–440      >440

Mae dechrau defnyddio cyffuriau gan gynnwys alcohol yn fwyaf tebygol o ddigwydd yn ystod llencyndod, ac mae rhywfaint o arbrofi gyda sylweddau gan bobl ifanc hŷn yn gyffredin. Er enghraifft, mae canlyniadau arolwg Monitro’r Dyfodol yn 2010, astudiaeth genedlaethol ar gyfraddau defnyddio sylweddau yn yr Unol Daleithiau, yn dangos bod 48.2% o fyfyrwyr gradd 12 yn dweud eu bod wedi defnyddio cyffur anghyfreithlon ar ryw adeg yn eu bywydau. [12] Yn y 30 diwrnod cyn yr arolwg, roedd 41.2% o'r myfyrwyr 12fed gradd wedi yfed alcohol ac roedd 19.2% o'r myfyrwyr 12fed gradd wedi ysmygu sigaréts.[12] Yn 2009 yn yr Unol Daleithiau roedd tua 21% o fyfyrwyr ysgol uwchradd wedi cymryd cyffuriau presgripsiwn heb bresgripsiwn.[13] Ac yn gynharach yn 2002, amcangyfrifodd Sefydliad Iechyd y Byd fod tua 140 miliwn o bobl yn ddibynnol ar alcohol a 400 miliwn arall â phroblemau cysylltiedig ag alcohol.[14]

Mae astudiaethau wedi dangos y bydd mwyafrif helaeth o ieuenctid yn rhoi'r gorau i ddefnyddio cyffuriau yn raddol cyn iddo ddod yn broblemus. Felly, er bod cyfraddau y defnydd cyffredinol yn uchel, mae canran y glasoed sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn sylweddol is (yn nes at 5%). Amcangyfrifa'r Cenhedloedd Unedig bod mwy na 50 miliwn o ddefnyddwyr cyson o morffin diasetad (heroin), cocên a chyffuriau synthetig."[15]

Bu farw dros 70,200 o Americanwyr o orddosau cyffuriau yn 2017.[16] Ymhlith y rhain, digwyddodd y cynnydd mwyaf ymhlith marwolaethau yn ymwneud â fentanyl ac opioidau synthetig (28,466 o farwolaethau).[16]

Cymdeithas a diwylliant golygu

Mae'r rhan fwyaf o lywodraethau'r byd wedi cynllunio deddfwriaeth i droseddoli rhai mathau o ddefnyddio cyffuriau. Gelwir y cyffuriau hyn yn aml yn gyffuriau anghyfreithlon ond yn gyffredinol yr hyn sy'n anghyfreithlon yw eu cynhyrchu, eu dosbarthu a bod yn eu meddiant heb drwydded. Gelwir y cyffuriau hyn hefyd yn sylweddau a reolir. Hyd yn oed ar gyfer meddiant syml, gall cosb gyfreithiol fod yn eithaf difrifol (gan gynnwys y gosb eithaf mewn rhai gwledydd). Mae cyfreithiau'n amrywio ar draws y byd, a hyd yn oed oddi mewn iddynt, ac maent wedi amrywio'n fawr trwy gydol hanes.

 
1991 Stamp post Indiaidd gyda'r slogan arno - Byddwch yn wyliadwrus o gyffuriau

Mae ymdrechion gan bolisi rheoli cyffuriau a noddir gan lywodraethau i wahardd cyflenwad cyffuriau a dileu cam-drin cyffuriau wedi bod yn aflwyddiannus i raddau helaeth. Er gwaethaf ymdrechion enfawr yr Unol Daleithiau, mae cyflenwad a phurdeb cyffuriau wedi cyrraedd yr uchaf erioed, gyda mwyafrif helaeth yr adnoddau'n cael eu gwario ar waharddiad a gorfodi'r gyfraith yn lle iechyd y cyhoedd.[17][18] Yn yr Unol Daleithiau, mae nifer y troseddwyr cyffuriau di-drais yn y carchar yn fwy na 100,000 o gyfanswm y boblogaeth carcharu yn yr UE, er gwaethaf y ffaith bod gan yr UE 100 miliwn yn fwy o ddinasyddion.[19]

Er gwaethaf deddfwriaeth cyffuriau (neu efallai o'i herwydd), mae cartelau cyffuriau troseddol trefnus, mawr yn gweithredu ledled y byd. Mae eiriolwyr dad-droseddoli yn dadlau bod gwahardd cyffuriau yn gwneud gwerthu cyffuriau yn fusnes proffidiol, gan arwain at lawer o'r gweithgarwch troseddol cysylltiedig.

Y Deyrnas Unedig golygu

Amcangyfrifodd Swyddfa Gartref y DU fod cost gymdeithasol ac economaidd camddefnyddio cyffuriau[20] i economi’r DU o ran troseddu, absenoldeb a salwch yn fwy na £20 biliwn y flwyddyn.[21] Fodd bynnag, nid yw Swyddfa Gartref y DU yn amcangyfrif pa gyfran o’r troseddau hynny sy’n ganlyniadau anfwriadol, cynhyrchu peryglus a dosbarthu peryglus), na beth yw cost hyn o ran yr heddlu ayb. Mae'r agweddau hynny yn angenrheidiol ar gyfer dadansoddiad llawn o economeg y gwaharddiad. [22]

Cymru golygu

https://phw.nhs.wales/news/drug-deaths-at-their-highest-ever-levels-in-wales/

Harm Reduction Database Wales: Drug related mortality Annual Report 2018-19 Gwefan GIG Cymru

Yn ô Cronfa Ddata Lleihau Niwed Cymru: Adroddiad Blynyddol Marwolaethau sy'n Gysylltiedig â Chyffuriau 2018-19 rhwng 2017-18 roedd marwolaethau oherwydd cyffuriau ar eu huchaf erioed - 78% yn uwch mewn 10 mlynedd. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, roedd opioidau gan gynnwys heroin yn ymwneud ag ychydig dros hanner y marwolaethau yn ymwneud â chyffuriau yn 2018. Adroddwyd bod defnydd poly-gyffuriau, y defnydd o gyffuriau eraill gan gynnwys benzodiazepines a chocên, yn 49%.

Cyfeiriadau golygu

  1. Ksir, Oakley Ray; Charles (2002). Drugs, society, and human behavior (arg. 9th). Boston [u.a.]: McGraw-Hill. ISBN 978-0072319637.
  2. (2002). Mosby's Medical, Nursing & Allied Health Dictionary. Sixth Edition. Drug abuse definition, p. 552. Nursing diagnoses, p. 2109. ISBN 0-323-01430-5.
  3. "Addiction is a Chronic Disease". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 June 2014. Cyrchwyd 2 July 2014.
  4. 4.0 4.1 "World Drug Report 2012" (PDF). UNITED NATIONS. Cyrchwyd 27 September 2016.
  5. "EMCDDA | Information on the high-risk drug use (HRDU) (formerly 'problem drug use' (PDU)) key indicator". emcdda.europa.eu. Cyrchwyd 2016-09-27.
  6. 6.0 6.1 GBD 2015 Mortality and Causes of Death Collaborators (8 October 2016). "Global, regional, and national life expectancy, all-cause mortality, and cause-specific mortality for 249 causes of death, 1980–2015: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2015.". Lancet 388 (10053): 1459–1544. doi:10.1016/S0140-6736(16)31012-1. PMC 5388903. PMID 27733281. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5388903.
  7. GBD 2013 Mortality and Causes of Death, Collaborators (17 December 2014). "Global, regional, and national age-sex specific all-cause and cause-specific mortality for 240 causes of death, 1990–2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013.". Lancet 385 (9963): 117–71. doi:10.1016/S0140-6736(14)61682-2. PMC 4340604. PMID 25530442. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4340604.
  8. "A Public Health Approach" (PDF). Cyrchwyd 1 April 2017.
  9. Nutt, David J; King, Leslie A; Phillips, Lawrence D (November 2010). "Drug harms in the UK: a multicriteria decision analysis". The Lancet 376 (9752): 1558–1565. doi:10.1016/S0140-6736(10)61462-6. PMID 21036393.
  10. Philip Jenkins, Synthetic panics: the symbolic politics of designer drugs, NYU Press, 1999, ISBN 0-8147-4244-0, pp. ix–x
  11. 11.0 11.1 Fehrman, Elaine; Egan, Vincent; Gorban, Alexander N.; Levesley, Jeremy; Mirkes, Evgeny M.; Muhammad, Awaz K. (2019). Personality Traits and Drug Consumption. A Story Told by Data. Springer, Cham. arXiv:2001.06520. doi:10.1007/978-3-030-10442-9. ISBN 978-3-030-10441-2.
  12. 12.0 12.1 Johnston, L. D., O’Malley, P. M., Bachman, J. G., & Schulenberg, J. E. (2011). Monitoring the Future national results on adolescent drug use: Overview of key findings, 2010 Archifwyd 2021-12-07 yn y Peiriant Wayback.. Ann Arbor: Institute for Social Research, The University of Michigan.
  13. "CDC Newsroom Press Release June 3, 2010".
  14. Barker, P. ed. 2003. Psychiatric and mental health nursing: the craft and caring. London: Arnold. pp297
  15. "Drug Trade". BBC News.
  16. 16.0 16.1 Overdose Death Rates. By National Institute on Drug Abuse (NIDA).
  17. Copeman M (April 2003). "Drug supply and drug abuse". CMAJ 168 (9): 1113; author reply 1113. PMC 153673. PMID 12719309. http://www.cmaj.ca/cgi/pmidlookup?view=long&pmid=12719309.
  18. "Impact of supply-side policies for control of illicit drugs in the face of the AIDS and overdose epidemics: investigation of a massive heroin seizure". CMAJ 168 (2): 165–9. January 2003. PMC 140425. PMID 12538544. http://www.cmaj.ca/cgi/pmidlookup?view=long&pmid=12538544.
  19. Bewley-Taylor, Dave, Hallam, Chris, Allen Rob. The Beckley Foundation Drug Policy Programme: The Incarceration of Drug Offenders: An Overview. March 2009.
  20. "NHS and Drug Abuse". National Health Service (NHS). March 22, 2010. Cyrchwyd March 22, 2010.
  21. "Home Office | Tackling Drugs Changing Lives | Drugs in the workplace". 2007-06-09. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-09. Cyrchwyd 2016-09-19.
  22. Thornton, Mark (31 July 2006). "The Economics of Prohibition". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-03. Cyrchwyd 2022-02-22.

Dolenni allanol golygu