Onychogomphus forcipatus

Onychogomphus forcipatus
Onychogomphus forcipatus amryw. unguiculatus, benyw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Teulu: Gomphidae
Genws: Onychogomphus
Rhywogaeth: Onychogomphus forcipatus
(Linnaeus, 1758)

Gwas neidr o deulu'r Gomphidae (neu'r 'Gweision neidr tindrom') yw'r Onychogomphus forcipatus; yr enw arno yn Saesneg yw'r small pincertail. Fel llawer o weision neidr, ei gynefin yw afonydd glân gyda glannau tywodlyd a dŵr sy'n rhedeg; weithiau eu cynefin yw llynnoedd mawr[1]. Mae'n was neidr eitha cyffredin ac fe'i ceir yn Ewrop, Gogledd Affrica (Algeria, Moroco, Tiwnisia) ac yn Armenia, Aserbaijan, Iran, Casachstan, Lithwania a Thyrcmenistan.[2][3]

Ceir o leiaf tair isrywogaeth:[4]

  • Onychogomphus forcipatus math albotibialis Schmidt, 1954
  • Onychogomphus forcipatus math forcipatus (Linnaeus, 1758)
  • Onychogomphus forcipatus math unguiculatus (Vander Linden, 1820)

Disgrifiad golygu

Tyf yr oedolyn hyd at 6 centimetr (2.4 modfedd) gyda'i adenydd agored yn 5.5–7.5 centimetr (2.2–3.0 modfedd). Gwyrdd-lwyd yw ei lygaid, sy'n eitha pell oddi wrth ei gilydd. Ceir dwy linell ddu, gul ar y thoracs, llinell felen ar y fertig a dwy gell uwchben triongl yr anws. Mae gwaelod asgell ôl y gwryw yn onglog ond yn y fenyw mae'n gron.

Ar y cyfan, mae'r rhywogaeth hon yn edrych yn eitha tebyg i Onychogomphus uncatus. Y dull gorau i'w gwahaniaethu yw'r marciau duon ar y thoracs, y soniwyd amdanynt.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Dragonflies and damselflies in Languedoc
  2. "Fauna europaea". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2018-05-09.
  3. IUCN
  4. Biolib

Dolen allanol golygu