Open Rights Group
grŵp eiriolaeth hawliau digidol Prydeinig
Cwmni dielw yn y DU yw'r Open Rights Group a sefydlwyd er mwyn gwarchod a hyrwyddo hawliau unigolion yn yr oes ddigidol. Fe'i sefydlwyd yn 2005 gan tua mil o ymgyrchwyr digidol ac erbyn hyn mae'n hawlio ei fod y sefydliad mwyaf o'i fath yn y DU sy'n amddiffyn rhyddid mynegiant, preifatrwydd, hawliau'r defnyddiwr a chreadigrwydd ar y we fyd-eang.[1] Mae'n aelod o EDRI, sefydliad traws-Ewropeaidd sy'n ymgyrchu dros hawliau digidol.
Enghraifft o'r canlynol | carfan bwyso, sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2005 |
Sylfaenydd | Danny O'Brien, Cory Doctorow, Ian Brown, Rufus Pollock, James Cronin, Suw Charman-Anderson |
Aelod o'r canlynol | European Digital Rights |
Pencadlys | Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Llundain |
Gwefan | http://openrightsgroup.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol (Saesneg)