Darlunydd, dylunydd llwyfan, ac awdur o Sais oedd Syr Osbert Lancaster (4 Awst 190827 Gorffennaf 1986) sydd yn nodedig am ei gartwnau a gyhoeddwyd yn y Daily Express ac am ei ysgrifeniadau a lluniau ar bwnc pensaernïaeth.

Osbert Lancaster
Ganwyd4 Awst 1908 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 1986 Edit this on Wikidata
Chelsea Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcartwnydd, dylunydd theatr, beirniad celf Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Daily Express Edit this on Wikidata
PriodKaren Harris Edit this on Wikidata
PlantWilliam Lancaster Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Marchog Faglor, Dylunydd Brenhinol ar gyfer Diwydiant Edit this on Wikidata

Ganed yn Llundain, yn unig blentyn i Robert Lancaster a'i wraig Clare Bracebridge Manger. Bu farw Robert ym Mrwydr y Somme ym 1916. Aeth Osbert i ysgol baratoi Saint Ronan's yn Worthing, Sussex, ac yna i Ysgol Charterhouse yn Godalming, Surrey. Cafodd ei dderbyn i astudio'r Saesneg yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, ym 1926, ac yno enillodd enw am wisgo dillad sgwarog, monocl, a mwstás mawr. Cyfrannodd gartwnau i gylchgrawn y brifysgol, Cherwell, a magodd gyfeillgarwch â'r bardd ifanc John Betjeman, y ddau ohonynt yn hoff iawn o bensaernïaeth Fictoraidd. Myfyriwr chwithig oedd Lancaster, ac wedi iddo astudio am flwyddyn ychwanegol derbyniodd ei radd baglor yn y celfyddydau, o'r pedwerydd dosbarth, ym 1930. Ceisiodd am yrfa gyfreithiol ond methodd yr arholiadau a ni chafodd ei alw i'r Bar.[1]

Astudiodd yn Ysgol Gelf Slade, Prifysgol Llundain, ac enillodd dystysgrifau mewn paentio a dylunio llwyfan.[2] Yno cyfarfu â Karen Elizabeth Harris, a phriodasant ym 1933. Cawsant un mab ac un ferch.[1] Cyfrannodd Lancaster yn rheolaidd at cyfnodolyn yr Architectural Review, gan ddarlunio'i golofn gyda llinluniau ei hun. Cesglid rhai o'r rheiny yn ei lyfr cyntaf, y casgliad dychanol Progress at Pelvis Bay (1936), sydd yn olrhain datblygiadau pensaernïol mewn pentref glan môr nodweddiadol. Ymdrinia yn ffraeth â hanes pensaernïaeth Lloegr yn Pillar to Post (1938) ac â dylunio mewnol yn Homes, Sweet Homes (1939). Cyfunwyd y gweithiau hyn, ynghyd â deunydd ar bwnc pensaernïaeth a dylunio o'r Unol Daleithiau, yn y gyfrol Here, of All Places (1958).[2]

Ymddangosodd ei fân-gartŵn cyntaf i'r Daily Express ar 1 Ionawr 1939, yng ngholofn glecs "William Hickey". Lluniodd Lancaster ryw 10,000 o gartwnau ar gyfer y papur newydd hwnnw dros y ddeugain mlynedd nesaf, ac argraffwyd nifer ohonynt ar y dudalen flaen. Ymddengys cymeriadau rheolaidd yn ei gartwnau sydd yn dychanu, mewn modd teg yn hytrach na chwerw, agweddau a ffasiynau'r dosbarthiadau uchaf a chanol; yn eu plith y clerigwyr Canon Fontwater a Father O'Bubblegum, y wraig Dorïaidd Mrs Frogmarch, a Maudie, Iarlles Littlehampton a'i gŵr Willy. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd ym 1939 ymunodd Lancaster â swyddfa sensoriaeth y wasg. Cafodd ei anfon i Wlad Groeg o 1944 i 1946 fel swyddog y wasg gan y Swyddfa Dramor. Ysgrifennodd y llyfr Classical Landscape with Figures (1947) ar sail ei brofiadau yng Ngroeg.[1]

Ym 1951 gweithiodd Osbert Lancaster gyda'r arlunydd John Piper ar gyfer Gŵyl Prydain. Ar gyngor Piper, dyluniodd Lancaster ei set gyntaf i'r llwyfan, ar gyfer y bale comig Pineapple Poll yn Theatr Sadler's Wells ym Mawrth 1951. Dyluniai setiau a gwisgoedd ar gyfer dramâu, bales, ac operâu am ugain mlynedd, gan gynnwys sawl cynhyrchiad i Ŵyl Glyndebourne.[1][2] Symudodd Lancaster a'i deulu i Leicester House, plasty yn null y Rhaglywiaeth yn Henley-on-Thames. Bu farw Karen Lancaster ym 1964, ac ail-briododd Osbert â'r newyddiadurwraig Anne Eleanor Scott-James (1913–2009) ym 1967.[1]

Ysgrifennodd Lancaster ddwy gyfrol o'i gofiannau: All Done from Memory (1953) a With an Eye to the Future (1967).[2] Cafodd ei benodi'n CBE ym 1953 a'i urddo'n farchog ym 1975. Bu farw Syr Osbert Lancaster yn Chelsea, Llundain, yn 77 oed, a chafodd ei gladdu yn West Winch, Norfolk.[1] Cyhoeddwyd y casgliad The Essential Osbert Lancaster (1988) wedi ei farwolaeth.

Llyfryddiaeth golygu

  • Progress at Pelvis Bay (1936).
  • Pillar to Post (1938).
  • Homes, Sweet Homes (1939).
  • Classical Lanscape with Figures (1947).
  • The Saracen's Head (1948).
  • Draynflete Revealed (1949).
  • All Done from Memory (1953).
  • Here, of All Places (1958).
  • With an Eye to the Future (1967).
  • Sailing to Byzantium: An Architectural Companion (1969).
  • Noblesse Oblige: An Enquiry into the Identifiable Characteristics of the English Aristocracy (1973).
  • The Pleasure Garden: An Illustrated History of British Gardening (1977).
  • Scene Changes (1978).
  • The Life and Times of Maudie Littlehampton (1982).
  • The Essential Osbert Lancaster: An Anthology in Brush and Pen (1988).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 (Saesneg) Bevis Hillier, "Lancaster, Sir Osbert (1908–1986)", Oxford Dictionary of National Biography (2013). Adalwyd ar 13 Chwefror 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Sir Osbert Lancaster. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Chwefror 2021.