Osian Ellis

cyfansoddwr a aned yn 1928

Telynor a chyfansoddwr o Gymro oedd Osian Gwynn Ellis CBE (8 Chwefror 19285 Ionawr 2021).[1]

Osian Ellis
Ganwyd8 Chwefror 1928 Edit this on Wikidata
Ffynnongroyw Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ionawr 2021 Edit this on Wikidata
Pwllheli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr, athro cerdd, telynor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Ganwyd yn Ffynnongroyw, Sir Fflint, Cymru yn 1928, yn fab i T. G. Ellis, gweinidog gyda’r Wesleaid.[2] Astudiodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol dan law Gwendolen Mason.[3] Yn ddiweddarach dilynodd hi fel Athro ar y delyn o 1959 tan 1989 yn yr Academi. Ymunodd â Cherddorfa Symffoni Llundain yn 1961 a ef oedd eu prif delynor. Roedd yn aelod o'r Melon Ensemble, ac ef a ffurfiodd Ensemble Telyn Osian Ellis.

Ef oedd Llywydd Anrhydeddus Gwyl Telyn Rhyngwladol Cymru [[4]

Bu’n aelod o bwyllgor gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Chymdeithas Cerdd Dant Cymru. Derbyniodd anrhydeddau lu gan Brifysgol Cymru, Prifysgol Bangor a gwobrau haeddiannol gan brif sefydliadau cerddorol y genedl, a’r CBE gan y Frenhines. Fel athro telyn, dylanwadodd ar genedlaethau o gerddorion a thelynorion, yn ei plith Elinor Bennett a Sioned Williams.

Yn dilyn dathlu ei ben blwydd yn 90 oed, cyfansoddodd ddau waith newydd : "Cylch o Alawon Gwerin Cymru" (ar gyfer Bryn Terfel a Hannah Stone) a’i waith i delyn "Lachrymae".

Bywyd personol golygu

Roedd ganddo chwaer hŷn, Elfrys. Roedd yn briod a Rene ac roedd ganddynt ddau fab - Richard Llywarch a Tomos Llywelyn (a fu farw yn 2009).

Bu farw ar 5 Ionawr 2021, yn 92 mlwydd oed, yn ei gartref yn Arfryn, Pwllheli. Cynhaliwyd ei angladd ar 15 Ionawr 2021 ac fe'i gladdwyd ym Mynwent Aberdaron.[5][6]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Osian Ellis, harpist known for his association with Benjamin Britten and Peter Pears – obituary". The Telegraph (yn Saesneg). 15 Ionawr 2021. Cyrchwyd 15 Ionawr 2021.
  2. "Osian Ellis (1928-2021)". Canolfan Gerdd William Mathias. 15 Ionawr 2021.
  3. "Y telynor Osian Ellis wedi marw yn 92 oed". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 15 Ionawr 2021.
  4. Osian Ellis profile (*1928)
  5.  Osian Ellis Obituary Notice. G D Roberts & Sons (16 Ionawr 2021).
  6.  Osian Ellis (1928-2021). Canolfan Gerdd William Mathias (15 Ionawr 2021).