Ffynnongroyw

pentref yn Sir y Fflint

Pentref yng nghymuned Llanasa, Sir y Fflint, Cymru, yw Ffynnongroyw[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir ym mhen ogleddol y sir ar lan orllewinol Glannau Dyfrdwy, i'r de o Dalacre. Saif ar briffordd yr A548, tua hanner ffordd rhwng Prestatyn i'r gorllewin a Mostyn i'r dwyrain.

Ffynnongroyw
Y ffynnon yr enwir y pentref ar ei hôl
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanasa Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3304°N 3.3004°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ134823 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auHannah Blythyn (Llafur)
AS/auRob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Enwir y pentref ar ôl y Ffynnongroyw, ffynnon naturiol mewn llecyn ym mhen Lôn y Ffynnon. Ceir carreg yn do arni a gril (diweddar) i'w hamddiffyn. Tu ôl i'r pentref cyfyd bryniau cyntaf Bryniau Clwyd, gan ffurfio ymyl ddwyreiniol Dyffryn Clwyd. Mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn mynd rhwng y pentref a'r arfordir, ond does dim gorsaf yno.

Rhes o dai yn Ffynnongroyw

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]

Enwogion golygu

Magwyd y gantores boblogaidd Caryl Parry Jones (ganwyd 1958) yn Ffynnongroyw.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 14 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir y Fflint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato